Mae dau aelod o staff ac un myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Addysg Prydain (BEA).
Cafodd Gwobrau Addysg Prydain eu sefydlu er mwyn hyrwyddo rhagoriaeth byd addysg Prydain. Maent yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd addysg a dysgu fel sylfaen i fyw bywyd da ac yn ei weld fel ffordd o fesur llwyddiant y wlad.
Mae’r tiwtor/aseswr Peirianneg, Lizzie Roberts, sy’n gweithio yng Nghampws Tycoch wedi cael ei enwebu ar gyfer y categori galwedigaethol, gan ei Rheolwr Maes Dysgu, Dave Cranmer.
Bu Lizzie yn Llysgennad Peirianneg fenywaidd i’r Coleg am gyfnod, a chafodd hefyd ei phenodi fel llysgennad gan Lywodraeth Cymru, oedd yn cynnwys cymryd rhan mewn ymgyrch hyrwyddo helaeth.
“Mae peirianneg wastad wedi bod yn bwnc sydd wedi fy niddori, felly penderfynais gymryd Llwybr Prentisiaeth PEO Lefel 2, cyn symud ymlaen i wneud cwrs Lefel 3 mewn Melino a Throi,” meddai Lizzie. “Ym mis Medi 2014, fe ddechreuais brentisiaeth creu offer gyda Rosti Automotive, ac fe wnes i ei gwblhau dros gyfnod o bedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cofrestrais ar gyfer Diploma/Tystysgrif Genedlaethol Uwch ar gyfer Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Pan hysbysebwyd swydd ar gyfer Aseswr Peirianneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, neidiais ar y cyfle gan fy mod yn credu’n gryf mewn gwerth prentisiaethau. Roeddwn hefyd yn awyddus i helpu pobl ifanc i wireddu eu breuddwydion o fewn y sector peirianneg. Mae bod yn aseswr yn fy ngalluogi i drosglwyddo fy ngwybodaeth, gan helpu dysgwyr i dyfu a gwella eu sgiliau a'u cynnydd eu hunain.”
Mae’r darlithydd Iechyd a Gofal Plant, Karen Llewellyn, sy’n gweithio yng Nghampws Gorseinon wedi cael ei henwebu ar gyfer categori’r Gradd, am y gwaith y cyflawnodd pan yr oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant.
Enillodd Karen gymhwyster cyntaf (first) mewn gradd BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, ar ôl astudio am 15 mis yn unig. Mae hyn yn gyflawniad gwych wrth ystyried ei chyfrifoldebau personol ac addysgu.
“Mae’n fraint fawr cael bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon,” meddai Karen, a gafodd wybod am ei henwebiad cyn gwyliau’r Nadolig. “Cyn ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe fel darlithydd llawn amser yn 2013, roeddwn yn warchodwr plant cofrestredig am 13 mlynedd. Dwi’n teimlo’n angerddol dros y sector hwn ac yn teimlo’n gryf y dylwn drosglwyddo fy sgiliau a’m gwybodaeth i’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr.”
Mae Zahab Al Mabsali wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr yng nghategori’r Cyflawniad Arbennig. Cydnabyddir yr enwebiad hwn ei benderfyniad i gwblhau rhaglen addysgol cyn Safon Uwch, gan wella ei broffil graddau TGAU er mwyn symud ymlaen i wneud Safon Uwch.
Er gwaethaf amgylchiadau personol anodd, mae Zahab wedi llewyrchu yn y Coleg.
Yn ystod ei flwyddyn astudiaeth cyn Safon Uwch, tyfodd hyder Zahab yn gyson ac roedd ei ddarlithwyr wrth eu boddau pan gwblhaodd y rhaglen gyda phresenoldeb a chanlyniadau ardderchog. Llwyddodd Zahab i olrhain ‘llwybr cyflym’ mewn dau bwnc a gwellhaodd ei raddau mewn dau bwnc arall – oblegid hyn, Zahab oedd y cyflawnydd uchaf yn ei ddosbarth.
Mae ei frwdfrydedd a’i lwybr i wella ei hun wedi creu argraff dda ar bawb sy’n cwrdd â Zahab. Braf yw dweud bod Zahab bellach wedi cofrestru ar gyfer raglen Safon Uwch i astudio Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg a’r Gyfraith.
“Mae Zahab yn ymgorffori popeth y dylai’n system addysg ddarparu ar gyfer ei fyfyrwyr,” meddai’r Liz Edwards, y darlithydd a enwebodd Zahab ar gyfer y wobr. “Dylai Zahab fod yn eithriadol o falch bod pob aelod o staff sydd wedi’i ddysgu yn cefnogi’r penderfyniad o’i enwebu ar gyfer y wobr hon.”
“Rwyf wrth fy modd bod Lizzie, Karen a Zahab wedi cael eu henwebu,” meddai Mark Jones, y Pennaeth. “Mae pob enwebiad yn haeddiannol, gan fod yr unigolion wedi dangos ymroddiad, ymrwymiad a brwdfrydedd i’w pynciau. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt yn y noson wobrwyo ar 31 Ionawr.”