Diweddariad 19 Awst 2020
Bydd myfyrwyr yn gallu gweld canlyniadau eu harholiadau yn yr adran manylion arholiad ar eu e-CDU. Neu, gallwch fewngofnodi i’r ap engage ar ôl 8.30am ar ddiwrnod y canlyniadau.
Os ydych yn cael problemau wrth fewngofnodi, ewch i’r dudalen hon ar y wefan
Bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 20 Awst ar ôl 8.30am
Bydd myfyrwyr galwedigaethol yn cael eu hysbysu pan fydd eu canlyniadau ar gael i’w gweld
Yn dilyn penderfyniadau Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, mae’ch gradd TGAU eisoes wedi cael ei haddasu i roi’r radd orau i chi allan o’ch gradd a gyfrifwyd (safoni) neu’r Graddau a Aseswyd gan y Ganolfan (graddau a gyflwynwyd gan y Coleg).
Nid yw’r broses apelio arferol ar gael eleni. Fodd bynnag, os oes gennych dystiolaeth gredadwy nad yw’r radd a roddwyd i chi yr hyn y byddech wedi’i ddisgwyl yn seiliedig ar eich gwaith eleni, bydd rhaid i chi gyflwyno ffurflen gwyno Graddau a Aseswyd gan y Ganolfan.
Mae’r Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC) wedi rhoi’r fideo byr hwn at ei gilydd i egluro’r broses gymwysterau maen nhw’n ei gweithredu.