Skip to main content
Grŵp o bobl yn gwenu

Parti staff yn nodi diwedd blwyddyn academaidd arall

Cafodd staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eu gwahodd i ddigwyddiad dathlu arbennig yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti ar 28 Mehefin.

Ar ôl blwyddyn hynod o brysur arall, roedd yn gyfle i staff cymorth ac addysgu o bob campws ymlacio am ychydig oriau a mwynhau cwmni ei gilydd.

Darparwyd adloniant gan Fand Iwcalilis Abertawe a’r canwr Michael Roberts, a gafodd bawb ar eu traed i ddawnsio, a’r dewin hud a lledrith Dorian a ddiddanodd y partïwyr gyda’i driciau amrywiol.

Cafwyd bwth lluniau hefyd, ac amrywiaeth o fwyd blasus o soch rhost i ddanteithion figan i hufen iâ.

Yn ogystal ag arolwg Estyn o’n darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith, mae’r Coleg wedi cipio nifer o wobrau nodedig yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf gan gynnwys:

Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson – Arian ar gyfer Tîm AB y Flwyddyn (Tirlunio ac Eco-adeiladu)
Gwobrau InsideOut Awards – Arweinydd y Flwyddyn - Pobl (Sarah King) a Gwobr Effaith Gymdeithasol (Tîm Dysgu Seiliedig ar Waith)
Gwobr Aur CyberFirst 
Gwobrau Adnoddau Dynol Prydain – Sefydliad Sector Cyhoeddus y Flwyddyn
Gwobrau FE First Rhwydwaith Marchnata Colegau – Arian am y Cyfryngau Cymdeithasol a Digidol
Effaith UCM Cymru – Ymgysylltiad Aelodau y Flwyddyn ac Undeb AB y Flwyddyn
Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau – Gwobr Cymdeithas y Colegau am Ehangu Cyfranogiad.

“Roedd y prynhawn yn gyfle go iawn i ddiolch i’n staff anhygoel, dathlu fel un tîm a myfyrio a mwynhau amser gyda’n gilydd ar ddiwedd blwyddyn academaidd lwyddiannus arall,” meddai’r Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles, Sarah King.