Cafodd cannoedd o ddysgwyr ifanc eu gwahodd i lansiad Hyb Seren Abertawe 2025/26 yn ddiweddar, lle roeddent yn gallu dysgu rhagor am y sgiliau sydd eu hangen i wneud cais i un o’r prifysgolion gorau yn y DU.
Dan arweiniad Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe, cafodd y digwyddiad ei gynnal ar Gampws y Bae y Brifysgol. Fe’i mynychwyd gan dros 300 o fyfyrwyr o’r Coleg ac ysgolion chweched dosbarth lleol, a daeth llawer ohonynt â’u rhieni a’u gwarcheidwaid.
Ar ôl croeso rhagarweiniol gan Dr Emma Smith – Rheolwr Cyfoethogi Academaidd y Coleg a Chydlynydd Seren Abertawe – daeth Dirprwy Bennaeth Cwricwlwm, Ansawdd, Dysgu ac Addysgu, Nikki Neale, a Deon Gweithredol Prifysgol Abertawe a Dirprwy Is-ganghellor y Gyfadran Wyddoniaeth a Pheirianneg, yr Athro David Smith i’r llwyfan.
Fe wnaeth Nikki a David sôn am y manteision niferus i bobl ifanc sy’n ymwneud â Hyb Seren Abertawe, o safbwynt addysg uwch ac addysg bellach.
Daeth y cyn-fyfyrwyr Cosima Wohlschlegel a Megan Salter i’r llwyfan hefyd i ddweud sut roedd Seren wedi rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu eu diddordeb angerddol yn eu pynciau a’u helpu gyda’u ceisiadau i’r brifysgol.
Siaradodd Cosima â brwdfrydedd am yr amrywiaeth o weithgareddau uwchgwricwlaidd mae hi wedi cymryd rhan ynddynt trwy Academi Seren a fydd yn ei helpu i wneud cais i Brifysgol Rhydychen i astudio Bioleg. Roedd Megan yn gallu ysbrydoli’r gynulleidfa gyda disgrifiad o’i thaith academaidd o Goleg Gŵyr Abertawe i Brifysgol Abertawe, lle mae hi bellach yn dechrau cwrs PhD.
“Mae Hyb Seren Abertawe yn rhoi modd i fyfyrwyr archwilio elfennau uwch-gwricwlaidd y pynciau sydd yn hanfodol o ran datblygu eu chwilfrydedd academaidd a’u hyblygrwydd deallusol,” meddai Emma. “Mae ein digwyddiad lansio yn enghraifft wych o’r bartneriaeth weithio gadarn sy’n bodoli rhwng Academi Seren, y Coleg, y Brifysgol, a’r saith ysgol yn Abertawe – cydweithrediad sydd â’r nod o ehangu cyfranogiad pobl ifanc sy’n anelu at sefydliadau addysg uwch blaenllaw.”
Ar ôl yr anerchiadau, cafodd myfyrwyr eu gwahodd i grwpiau trafod lle – dan arweiniad academyddion Prifysgol Abertawe – cymeron nhw ran mewn dosbarthiadau meistr blasu. Yn ogystal, roedd rhieni a gwarcheidwaid yn gallu cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r panel o siaradwyr gan gynnwys Emma Turner, Pennaeth Cyswllt Tîm Recriwtio i Mewn Prifysgol Abertawe.
Mae Seren yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn yn y DU a thramor. Ar gael i bob dysgwr â gallu academaidd o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13, mae Academi Seren yn cynnig sesiynau rhyngweithiol a phrofiadau astudio unigryw i helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch gwneud cais i brifysgolion blaenllaw.
Mae hyn yn cynnwys gweithdai cyngor ac arweiniad gan diwtoriaid derbyn Rhydychen a Chaergrawnt, sesiynau paratoi at broses dderbyn prifysgolion, mynediad at ddosbarthiadau meistr pynciol dan arweiniad academyddion prifysgol, a chyfnodau preswyl yn Rhydychen a Chaergrawnt.
Yn ddiweddar, cafodd Coleg Gŵyr Abertawe ei enwi yn un o’r 30 ysgol / coleg gorau yn y DU am sicrhau dilyniant pobl ifanc i Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen.