Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu rownd wych arall o lwyddiant medalau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026.
Cafodd myfyrwyr eu gwahodd i ‘barti gwylio’ arbennig a seremoni medalau ar Gampws Tycoch lle enillon nhw dair medal Aur, 11 medal Arian a thair medal Efydd.
Dyfarnwyd 23 o dystysgrifau Canmoliaeth Uchel i fyfyrwyr y Coleg hefyd.
Aur
- Matilda Topliss - Electroneg Ddiwydiannol
- Solomon Bunn-Sovin – Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
- Steve Sebastian - Dylunio Graffig
Arian
- Brandon Price – Datblygu Gwefannau
- Connor Brown - Sgiliau Sero Net
- Joshua Stock – Gosod Brics
- Keyna Peynado – Dylunio Graffig
- Kobi Williams – Sgiliau Sero Net
- Kori Williams - Gwaith Coed
- Marley Blakemore - Electroneg Ddiwydiannol
- Maya Brooks - Ffotograffiaeth
- Rhys Freeman - Sgiliau Sero Net
- Sophie Hockley – Sgiliau Crefft Ceramig
- Thomas Rideout - Sgiliau Sero Net
Efydd
- Benjamin Hutchins - Ffotograffiaeth
- Jesse Moxham - Electroneg Ddiwydiannol
- Maizie Lee – Therapydd Harddwch
Canmoliaeth Uchel
- Aaron Moore – Plastro
- Amber Grey – Gofal Plant
- Ben Winstone - Cyfrifeg
- Bethan Guard – Gofal Plant
- Courtney Taylor - Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd
- Cynan Kingdon - Codio
- Dalat Adebari – Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Emily-Grace Kitchin - Sgiliau Patrymau Arwyneb a Thecstilau
- Ethan Butler - Codio
- Harley Dark – Colur Creadigol
- Isabelle Tracey-Fall - Therapydd Harddwch
- Jack Hopkins - Ffotograffiaeth
- Josef Nisbet - Codio
- Joshua Pritchard – Gosod Brics
- Kaya-Louise Quinn - Electroneg Ddiwydiannol
- Kelsey Smith - Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)
- Louis Morgan - Electroneg Ddiwydiannol
- Max Thomas - Cyfrifeg
- Nafis Islam - Sgiliau Cynhwysol: Garddwriaeth
- Nikita Kod – Cyfrifeg
- Olga Roshchupkina - Trin gwallt
- Shimar Nazeem - Electroneg Ddiwydiannol
- Tom Noble – Gwaith Coed
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n codi proffil sgiliau drwy roi cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid brofi a gwella eu galluoedd drwy gystadleuaeth.
Wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru a'u darparu gan rwydwaith o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae'r cystadlaethau’n cyd-fynd â safonau WorldSkills ac yn cefnogi anghenion economi Cymru.
“Mae fframwaith Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn amhrisiadwy wrth gefnogi a hyrwyddo sgiliau a chyflawniadau galwedigaethol mewn amrywiaeth o bynciau a sectorau,” meddai Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Paul Kift.
“Mae gyda ni hanes cryf yn y cystadlaethau hyn, ac rydyn ni wrth ein bodd o ddathlu llwyddiant y dysgwyr hyn eto yn 2026. Clod mawr i staff addysgu a chymorth y Coleg hefyd sy’n arwain ac yn mentora eu myfyrwyr drwy gydol y broses, mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn chwarae rôl annatod yn y llwyddiant parhaus hwn.”