Skip to main content
Degree apprentice Lewys Brill pictured in his workplace.

Gwahoddiad i gyflogwyr fuddsoddi yn nhalent y dyfodol drwy Brentisiaethau Gradd ac Uwch wedi’u hariannu’n llawn a gynigir gan Goleg Gŵyr Abertawe

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n gwahodd cyflogwyr i archwilio’r Prentisiaethau Gradd ac uwch sydd ar gael o fis Medi 2026. I gyflogwyr newydd a phresennol, mae’r cymwysterau hyn yn cynnig llwybr (wedi’i ariannu’n llawn) clir at statws Siartredig neu Gofrestredig

Wedi’u cynllunio ar y cyd â phrifysgolion a chyrff dyfarnu blaenllaw, mae’r rhaglenni yn cyfuno astudiaethau academaidd â dysgu ymarferol yn y gweithle. Mae’r dull hwn o addysgu yn caniatáu dysgwyr i feithrin sgiliau uwch sy’n hwyluso eu dyheadau personol, gan hefyd ddiwallu anghenion y cyflogwr. Mae’r dysgu yn gyd-destunol a bydd staff yn ymgymryd â rhywfaint o’u dysgu ar bynciau sy’n berthnasol i’r gweithle.

Ariennir y cymwysterau hyn gan Lywodraeth Cymru ac maent yn ffordd gost-effeithiol o ddatblygu sgiliau arbenigol, gan ganiatáu prentisiaid i ennill cyflog, dysgu ac ennill cymwysterau Addysg Uwch a gydnabyddir yn genedlaethol.

Prentisiaeth Gradd: Peirianneg Integredig (BEng) – Lefel 4 i 6

Darperir ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd.

Mae’r Brentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Integredig (Beng) yn datblygu gweithwyr proffesiynol amlbwrpas sy’n gweithio ar draws disgyblaethau mecanyddol, trydanol ac electronig a systemau eraill. Bydd dysgwyr yn elwa o waith prosiect amlddisgyblaethol, arweinyddiaeth dechnegol mewn perthynas â rolau gweithgynhyrchu, cynnal a chadw a dylunio.

Mae'r rhaglen yn cyfuno dysgu yn y gweithle ag astudiaeth academaidd ac yn ymgorffori ystod eang o fodiwlau peirianneg fecanyddol, drydanol a chyfrifiadurol. Mae'r cymysgedd hwn wedi cael ei gynllunio i gynhyrchu peirianwyr cyflawn sy’n meddu ar y wybodaeth a'r gallu ymarferol i ymateb i ofynion esblygol y diwydiant.

Trwy gyfuno profiad ymarferol ag astudiaeth Addysg Uwch, mae Prentisiaethau Gradd yn galluogi dysgwyr i gymhwyso eu gwybodaeth yn syth, gan feithrin hyder ac arbenigedd yn gyflym.

Meddai Lewys Brill, Prentis Gradd mewn Peirianneg Integredig yn Forged Solutions:

"Mae'r brentisiaeth wedi fy ngalluogi i gyflawni sawl peth, gan gynnwys dilyniant yn fy nghwmni fy hun, ond rydw i hefyd wedi cael cyfle i ddysgu pethau ymarferol yn y byd y byd go iawn, gan gymhwyso’r wybodaeth yn fy swydd o ddydd i ddydd."

 

 

 

Prentisiaethau Uwch: DCU – Lefelau 4 a 5

Darperir ar y cyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Pearson.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn cynnig Prentisiaethau Uwch sy'n cyfuno cymwysterau HNC a HND a gydnabyddir yn genedlaethol â phrofiad yn y gweithle. Wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol, mae'r rhaglenni yn helpu cyflogwyr i ddatblygu arbenigwyr technegol, gan eu galluogi i adeiladu'r wybodaeth, yr hyder a'r arbenigedd ymarferol sydd eu hangen i symud ymlaen i rolau lefel uwch.

Mae'r rhaglenni canlynol ar gael o fis Medi 2026:

  • TCU / DCU mewn Rheoli Adeiladu – ar gyfer rheolwyr safle ac adeiladu
  • TCU / DCU mewn Peirianneg Fecanyddol - ar gyfer gweithwyr cynnal a chadw, gweithgynhyrchu, dylunio / CAD
  • TCU / DCU mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig – ar gyfer staff dylunio trydanol, systemau pŵer neu telathrebu
  • DCU mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Cemeg) – ar gyfer technegwyr labordy neu staff rheoli ansawdd.

Bydd y Coleg hefyd yn cyflwyno Prentisiaethau Uwch mewn Tirfesur Meintiau a Pheirianneg Sifil. Rydym yn annog cyflogwyr sydd â diddordeb yn y rhaglenni hyn i gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth. 

I gyflogwyr, mae Prentisiaethau Gradd ac Uwch yn ffordd effeithiol o ddatblygu sgiliau arbenigol yn y gweithlu. Trwy fuddsoddi mewn gweithwyr newydd a phresennol, gall sefydliadau fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau penodol, gan wella cyfraddau cadw staff, cynyddu cynhyrchiant yn y gweithle a datblygu talent wedi'i deilwra i anghenion busnes. 

Meddai Dr Patricia Xavier, Cyfarwyddwr Addysg Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:

"P'un a ydych am gefnogi gweithwyr presennol i symud ymlaen neu yn dymuno recriwtio talent newydd, mae Prentisiaethau Gradd ac Uwch yn ffordd ymgorfforedig ac ymatebol i gyflogwyr o ddatblygu gallu.

Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda chyflogwyr i lunio cwricwlwm a sgiliau sy’n diwallu anghenion y diwydiant. Gwych yw gweld datblygiad sgiliau, dilyniant gyrfa ac arloesedd o ganlyniad i’r cymwysterau hyn." 

Ochr yn ochr â'i ddarpariaeth Gradd a Phrentisiaethau Uwch, mae cynnig Addysg Uwch Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig ffordd hyblyg i gyflogwyr o ran datblygu a chadw talent. Gyda phortffolio sefydledig sy'n cynnwys cymwysterau proffesiynol ACCA, rhaglenni Busnes, Cyllid, Cyfrifiadura, Gwyddoniaeth Gymhwysol, TGU/DGU mewn Peirianneg a Rheoli Adeiladu, Graddau Sylfaen, Graddau a Phrentisiaethau Gradd, gall y Coleg helpu sefydliadau sydd â nifer o swyddogaethau a gofynion o fewn eu gweithlu.

Mae'r ddarpariaeth eang y Coleg yn galluogi cyflogwyr i greu llwybrau dilyniant clir mewn perthynas â rolau technegol, gweithredol, digidol, gwyddonol, masnachol ac arwain, gan gefnogi arferion datblygu ac uwchsgilio trwy gydol cylch bywyd y gweithiwr.

Mae Prentisiaethau Gradd ac Uwch Coleg Gŵyr Abertawe yn pontio addysg â diwydiant, gan sicrhau bod dysgwyr yn ennill y wybodaeth, y profiad a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y gweithle. Mae’r cymwysterau hefyd yn helpu cyflogwyr i ddatblygu gweithlu medrus.

Gallwch wneud cais o fis Medi 2026. Anogir cyflogwyr sy'n awyddus i uwchsgilio staff presennol neu recriwtio talent newydd i gofrestru eu diddordeb. Rydym hefyd yn annog darpar brentisiaid i ddarganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb, cwblhewch Ffurflen Ymholi Addysg Uwch Coleg Gŵyr Abertawe, neu e-bostiwch he@gcs.ac.uk.