Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd, a pha amser gwell i wneud hynny na dechrau’r flwyddyn newydd?
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i oedolion ym mhob math o faes o’r celfyddydau creadigol, iechyd a harddwch, a datblygiad personol, i adeiladu a chrefftau, busnes a chyllid, a sgiliau hanfodol.
Yn ogystal, maen nhw i gyd ar gael i’w hastudio’n rhan-amser ac felly gallwch eu dilyn o amgylch eich gwaith, eich bywyd teuluol ac ymrwymiadau eraill.
Gallwch chi gofrestru nawr ar gyrsiau rhan-amser Coleg Gŵyr Abertawe sy’n dechrau rhwng Ionawr a Mai 2025, ac mae llawer yn dechrau ym mhythefnos cyntaf y flwyddyn newydd.
Felly, p’un ai ydych yn ystytried rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru eich sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, bydd gan Goleg Gŵyr Abertawe gwrs rhan-amser i chi.
Mae cyrsiau Coleg Gŵyr Abertawe yn cael eu cydnabod a’u cefnogi gan gyflogwyr, sy’n ei hystyried yn fuddiol i’w sefydliadau pan fydd staff yn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth o gwmpas eu gyrfaoedd.
Dywedodd Ruth Evans, Rheolwr Prosiect Dysgu a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: “Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi cymorth parhaus Coleg Gŵyr Abertawe. Mae’r cymorth wedi rhoi modd i staff gwblhau’r rhaglenni a symud ymlaen i lefelau uwch er mwyn cynyddu eu gwybodaeth ymhellach.”
Dywedodd Nicholas Lyons, a raddiodd yn ddiweddar ac sy’n gweithio fel partner diogelwch cymunedol ac amgylcheddol yng Nghartrefi Cymoedd Merthyr: “Dwi wedi cael profiad o’r radd flaenaf gyda Choleg Gŵyr Abertawe, oherwydd y bobl yno, a lefel y cymorth.
“Maen nhw gyda chi bob cam o’r ffordd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Maen nhw’n eich helpu. Maen nhw’n eich annog. Roedden nhw mor gefnogol.”
Cwblhaodd Cerys Williams gwrs Diploma NVQ mewn Cyngor ac Arweiniad Lefel 4, i ddatblygu a thyfu ei gyrfa. "Mae’n wirioneddol braf dychwelyd i amgylchedd dysgu ac ennill sgiliau ychwanegol ar gyfer symud ymlaen."
Cwblhaodd Emily Lowe gwrs Tylino Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Dywedodd: “Mae dysgu pethau newydd a datblygu gwybodaeth yn gwneud i chi deimlo’n dda. Doeddwn i ddim wedi bod mewn addysg ffurfiol ers sbel, ac felly roeddwn i ychydig yn nerfus, ond dwi mor falch fy mod i wedi cymryd y cam hwn.
“Os ydych yn ystyried cwrs rhan-amser yn y Coleg, ewch amdani! Dydych chi byth yn gwybod i ble y gallai fynd â chi.”