Skip to main content
Image of Graduation stage

Dathliad ar gyfer ein graddedigion Addysg Uwch 2025

Mae dros 180 o fyfyrwyr addysg uwch (AU) o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu eu llwyddiannau academaidd mewn seremoni graddio arbennig yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe. 

Roedd y graddedigion yno i ddathlu cwblhau amrywiaeth eang o gyrsiau lefel uwch gan gynnwys cyngor ac arweiniad, cyfrifiadura a thechnoleg, y gyfraith a throseddeg, arweinyddiaeth a rheolaeth, amgylchedd adeiledig a marchnata.  

Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion i addysgu rhaglenni lefel uwch gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

“Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg, yn enwedig addysg bellach ac uwch, o ran addysgu’r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen i gefnogi economi gref ledled Cymru,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift.  

“Rydyn ni’n falch iawn felly bod Coleg Gŵyr Abertawe yn medru cefnogi’r agenda hwn wrth barhau i ddatblygu cyrsiau addysg uwch sy’n ateb anghenion Abertawe ac ardal de-orllewin Cymru.  

“Llongyfarchiadau i bob un o’n myfyrwyr sydd wedi cyflawni eu cymwysterau addysg uwch. Maen nhw’n glod iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, eu cyflogwyr a’r Coleg ac rydyn ni’n dymuno pob hwyl iddyn nhw yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at glywed am eu llwyddiant parhaus.”

“Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni wedi ymrwymo i lunio darpariaeth addysg uwch sy’n ateb anghenion sgiliau cyflogwyr a dysgwyr ar gyfer y dyfodol,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain. “Mae ein Strategaeth AU newydd yn canolbwyntio ar addysgu cyrsiau hyblyg, arloesol ar Lefelau 4 a 5, rhai’n cynnwys dysgu ar-lein, wrth gryfhau partneriaethau i sicrhau datblygiad ac achrediad cyflym ar y cwrs. Mae hyn yn ymwneud â chreu cyfleoedd a pharatoi ein myfyrwyr gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i lwyddo yn y gyrfaoedd o’u dewis." 

Roedd y noson hefyd yn gyfle i fyfyrwyr arddangos eu talentau, gyda band jazz dawnus y Coleg yn darparu’r adloniant yng nghyntedd yr Arena wrth i bobl gyrraedd, a’n myfyrwyr Celfyddydau Perfformio Lefel 4 gwych yn camu i’r llwyfan i agor y seremoni raddio.

Eleni, roedd yn anrhydedd gan Goleg Gŵyr Abertawe gyflwyno Tystysgrif Cymrodoriaeth arbennig i’r cyn-fyfyriwr Adele Thomas, cyfarwyddwr arobryn sy’n adnabyddus am lwyfannu sioeau theatr ac opera hynod gorfforol a syml.  

Ar hyn o bryd, hi yw Cyd-gyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Gweithredol Opera Cenedlaethol Cymru, ochr yn ochr â Sarah Crabtree.  

Ymhlith ei chyflawniadau eraill roedd hi’n un o sefydlwyr Freelancers Make Theatre Work, ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Goleg Fitzwilliam, Prifysgol Caergrawnt.  

Mae Adele yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Caergrawnt, cynllun RTYDS a chwrs Cyfarwyddwr Ifanc y Theatr Genedlaethol.  

Wrth siarad am ei chyfnod yn y Coleg, dywedodd Adele “Y newid mawr oedd pan es i i Gorseinon…Roeddwn i yn fy seithfed nef. Dyna ble wnes i wir brofi pob math o gelf – ffilm, drama, celf weledol – a gweld posibiliadau. Heb Gorseinon, fyddwn i byth wedi teimlo’n ddigon hyderus i fynd i Gaergrawnt.”