Skip to main content
Keiran Keogh

Cyfarwyddwr Ansawdd Newydd i’r Coleg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi penodiad Kieran Keogh fel ei Gyfarwyddwr Ansawdd newydd.

Mae Kieran yn olynu Peter Reason, a ymddeolodd ddiwedd mis Medi ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth yn y Coleg, a bydd yn ymgymryd â rôl hanfodol bwysig wrth oruchwylio ansawdd ar draws pob maes cwricwlwm.

Daw Kieran â chyfoeth o brofiad ym maes rheoli addysg bellach, gyda rolau blaenorol fel Arweinydd Campws yn Llwyn y Bryn a Rheolwr Maes Dysgu lle bu’n goruchwylio meysydd cwricwlwm y Celfyddydau Gweledol, Perfformiad Cerddoriaeth, Addysg Sylfaenol i Oedolion ac ESOL. Cyn hyn, bu Kieran yn Bennaeth Adran Ryngwladol y Coleg, yn gyfrifol am bob gweithgarwch masnachol dramor.

Mae ei yrfa yn cynnwys rolau amrywiol mewn dysgu ac addysgu, gan gynnwys Arweinydd Cwricwlwm Darpariaeth ESOL, Mentor Dysgu ac Addysgu, a Darlithydd TAR. Mae Kieran hefyd yn Arolygydd Cymheiriaid Estyn, gan gymryd rhan mewn dau arolygiad yn 2024, ac yn Gyd-gadeirydd i Rwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru.

Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Kieran, "Dwi mor falch o gael y swydd arweinyddiaeth hon mewn sefydliad sy’n adnabyddus am ei ymrwymiad i ansawdd. Ar y cyd â’r tîm ansawdd, dwi’n edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfaen gref hon gan sicrhau ein bod yn parhau i gynnal y safonau uchaf."

Fe wnaeth Nikki Neale, Dirprwy Bennaeth Cwricwlwm, Ansawdd, Dysgu ac Addysgu, groesawu Kieran i’r rôl gan ddweud: "Rydyn ni wrth ein bodd o weld Kieran yn ymuno â’r tîm uwch-arweinwyr. Bydd ei brofiad helaeth yn y sector yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i flaenoriaethu ansawdd yn unol â gweledigaeth strategol y Coleg, gan sicrhau’r canlyniadau gorau i bawb."

Dechreuodd Kieran yn ei rôl newydd yn swyddogol ar ddydd Llun, 30 Medi 2024.