Skip to main content
 

Croesawu myfyrwyr newydd i Goleg Gŵyr Abertawe

Cafodd myfyrwyr newydd siawns i ddysgu rhagor am fywyd campws pan ddaethon nhw i Ffair y Glas Coleg Gŵyr Abertawe ar Gampysau Tycoch a Gorseinon.

“Mae Ffair y Glas yn gyfle gwych i groesawu myfyrwyr newydd i’r Coleg,” meddai Rheolwr Profiad a Lles y Dysgwr, Joshua Jordan.

“Gallan nhw ddod i adnabod ei gilydd, cael gwybodaeth ddefnyddiol a rhoi cynnig ar nifer o weithgareddau sydd ar gael am ddim. Maen nhw hefyd yn cael cyfle i gofrestru ar gyfer clybiau’r Coleg, academïau chwaraeon, digwyddiadau menter, grwpiau iaith Gymraeg, Prosiect Addysg Gymunedol Cenia, neu ddysgu sut i fod yn fyfyriwr-lywodraethwr!”

Ymhlith y stondinwyr niferus roedd cynrychiolwyr o Undeb Myfyrwyr arobryn y Coleg, tîm yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a’r Ganolfan Chwaraeon. Roedd cyngor ar gael i’r myfyrwyr hefyd ar amrywiaeth o bynciau o reoli arian a chyflogadwyedd i faterion iechyd.

Diolch yn fawr iawn i’r sefydliadau canlynol a gefnogodd ein Ffair y Glas eleni:

Ambiwlans Awyr Cymru
Arena Abertawe
Banc Barclays
Barnado’s Abertawe
Barod
Canolfan Gofalwyr Abertawe
Cyngor Abertawe – Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe
Cymorth i Fenywod Abertawe
Elusen Canser Plant
EYST
Gweithredu dros Blant
Gym Group
Gyrfa Cymru
Heddlu De Cymru
Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr
Uplands School of Motoring
Y Fyddin Brydeinig
YMCA 

Rydyn ni dal wrthi yn cofrestru ar gyfer mis Medi – cysyllta â ni heddiw!
admissions@gcs.ac.uk