Skip to main content
Coleg yn croesawu ffagl Tîm Cymru i Gampws Tycoch

Coleg yn croesawu ffagl Tîm Cymru i Gampws Tycoch

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu ffagl Tîm Cymru i Gampws Tycoch, gan nodi carreg filltir allweddol ar ei thaith ar draws Cymru cyn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni.

Mae ras gyfnewid y ffagl yn creu cyffro cyn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol - a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf erioed ar 26-28 Tachwedd - ac yn taflu goleuni ar y ffordd i WorldSkills Shanghai 2026, sy’n cael eu galw yn ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ ledled y byd.

Ar hyd a lled Cymru, mae colegau wedi dod at ei gilydd i ddathlu’r cyd-ymdrech y tu ôl i lwyddiant Tîm Cymru mewn sgiliau galwedigaethol. Mae’r cystadlaethau hyn yn dechrau’n lleol gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru, a gydlynir gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, cyn symud ymlaen i lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ar Gampws Tycoch, y ffagl oedd canolbwynt digwyddiad dathlu arbennig a oedd yn cynnwys myfyrwyr a staff, ysgolion lleol (Townhill a Clwyd), cyflogwyr partner, pwysigion ac enillwyr medalau blaenorol mewn amrywiaeth o weithgareddau, arddangosiadau a gweithdai ‘Rhowch Gynnig Arni’.

Mae saith myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills 2025. Llongyfarchiadau mawr i’r canlynol:

Eva Robins – Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwyty
Bradley Claringbold, Hamza Imansouren a Kai Pagett – Electroneg Ddiwydiannol
Evelyn Howells – Gwasanaeth Bwyty
Ffion Davies – Effeithiau Arbennig, Colur a Gwallt ar gyfer Ffilm a Theledu
Kyle Steele – Weldio

Mae mwy na 400 o fyfyrwyr a phrentisiaid mwyaf talentog y DU wedi cael eu henwi fel rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol WorldSkills UK eleni, lle byddant yn brwydro i ennill teitl y gorau yn y wlad ar draws dwsinau o grefftau medrus. Dewiswyd hwy o blith bron i 7,900 o bobl ifanc a gofrestrodd i arddangos eu sgiliau a chystadlu mewn digwyddiadau rhanbarthol. Mae’r 47 cystadleuaeth yn cynnwys cynnal a chadw awyrennau, weldio a garddwriaeth.

Mae gan Gymru gysylltiad cryf â Thîm y DU ac anfonodd dri chystadleuydd i ddigwyddiad WorldSkills y llynedd yn Lyon.

Bydd enillwyr medalau yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar noson 28 Tachwedd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Casnewydd. Bydd enillwyr medalau sgiliau sylfaen yn derbyn eu gwobrau mewn seremoni yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn gynharach yn y dydd.

“Roedd yn anrhydedd i ni groesawu ffagl Tîm Cymru i Gampws Tycoch,” meddai’r Pennaeth Dros Dro, Paul Kift. “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau’r Rowndiau Terfynol Cenedlaethol ar 26 Tachwedd, lle bydd saith o’n dysgwyr dawnus yn cynrychioli’r Coleg yn falch ar draws ystod o ddisgyblaethau galwedigaethol. Hoffwn ddymuno’r gorau i’r holl gystadleuwyr - mae’n gyfle gwych i arddangos eu sgiliau a’u hymroddiad ar lwyfan cenedlaethol.”

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK: “Gyda chyflogwyr ledled y DU yn gweiddi am sgiliau o ansawdd uchel, mae hwn yn gyfle gwych i gannoedd o ddysgwyr ddangos eu bod yn barod am waith. Dwi’n edrych ymlaen at weld y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn dangos eu talentau.”

Fe wnaeth Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, ganmol y ffaith bod y cystadlaethau cenedlaethol yn dod i Gymru gan ddisgrifio’r digwyddiad fel un  ‘cyffrous.’

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddangos ein gwlad hardd i’r timau sy’n ymweld tra bod ein cystadleuwyr gweithgar ni yn paratoi i arddangos eu hyfforddiant,” meddai. “Dwi’n awyddus i weld ein cynrychiolwyr yn rhagori unwaith eto ar draws ystod o ddisgyblaethau ar eu tomen eu hunain.”