Mae myfyrwyr newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle i ddysgu rhagor am fywyd campws yn Ffair y Glas 2025.
Eleni, roedd gan y digwyddiadau yr un thema sef ‘Cynefin’ – ymdeimlad o berthyn i’ch cymuned.
Roedd y pwyslais ar roi cyfle i ddysgwyr ddarganfod y rhwydweithiau cymorth sydd ar gael iddynt yn y Coleg, ac i’w hannog i ymuno â’r clybiau, cymdeithasau ac academïau lawer sydd ar gael.
“Mae Ffair y Glas yn gyfle gwych i groesawu myfyrwyr newydd i’r Coleg,” meddai Josh Jordan, Arweinydd Ymgysylltu â Dysgwyr a Datblygiad Personol y Coleg. “Gallan nhw ddod i adnabod ei gilydd, cael gwybodaeth ddefnyddiol a rhoi cynnig ar y gweithgareddau niferus am ddim sydd ar gael.”
Wrth law i roi cyngor a gwybodaeth roedd cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o adrannau’r Coleg gan gynnwys CGA Egnïol, llyfrgelloedd, ymgynghorwyr iechyd, cyflogadwyedd, y Ganolfan Chwaraeon, academïau chwaraeon, cydraddoldeb ac amrywiaeth, Undeb y Myfyrwyr a Chymraeg/Diwylliant Cymru.
Diolch yn fawr iawn i’r sefydliadau allanol canlynol a gefnogodd ein Ffair y Glas eleni:
Barod – Choices Swansea; Big Swansea Shop; CWM Amgylcheddol; EYST; Fast Track; Fertility Network; Hello Asia; Atal Digartrefedd; UCM Cymru; Tîm Iechyd Rhywiol BIPBA; Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe; Canolfan Gofalwyr Abertawe (Oedolion Ifanc sy’n Gofalu); Cyngor Abertawe – Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd; The Bunkhouse; VOXI; Gwasanaeth Gwaed Cymru; Barnardos a’r YMCA.