Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio prentisiaeth Lefel 5 Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX newydd

Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio prentisiaeth Lefel 5 Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX newydd

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi Prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX Lefel 5. Byddwn yn dechrau cynnig y cwrs o fis Medi 2026 ac mi fydd yn cynnig llwybr dilyniant newydd i unigolion sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfreithiol sy’n dymuno datblygu eu gyrfaoedd a’u harbenigedd proffesiynol.

Mae’r lansiad hwn yn atgyfnerthu llwybr prentisiaethau y Coleg ym maes y gyfraith, gan gefnogi datblygiad a dilyniant ar draws y sector ledled De Cymru.

Mae'r brentisiaeth newydd wedi'i chyflwyno yn dilyn llwyddiant prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3 CILEX (Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol) ac mewn ymateb i'r galw cynyddol gan gyflogwyr am ddatblygu sgiliau lefel uwch o fewn timau gwasanaethau cyfreithiol.

Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer aelodau newydd a phresennol o'r tîm sydd wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 3. Bydd y cwrs yn rhedeg am 24 mis a bydd yn galluogi prentisiaid i ddatblygu gwybodaeth gyfreithiol uwch, sgiliau ymarferol ac ymddygiadau proffesiynol wrth barhau i weithio ac ennill cyflog yn y sector. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall ddysgwyr symud ymlaen i astudio cymwysterau megis Paragyfreithiwr Uwch CILEX neu statws proffesiynol yn y maes a gydnabyddir ar draws y proffesiwn cyfreithiol.

Darperir y cwrs ar sail ran-amser yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti, ac mae'r brentisiaeth yn cyfuno dysgu academaidd â chyfleoedd i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgir yn y byd go iawn, gan alluogi prentisiaid i gymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y gweithle ar unwaith.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio yn helaeth ar ymddygiadau proffesiynol sy'n hanfodol ar gyfer cyflawni llwyddiant ym maes gwasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys cyfathrebu yn effeithiol, rheoli pwysau, proffesiynoldeb a sylw i fanylion.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd prentisiaid wedi ennill y galluoedd uwch sydd eu hangen i symud ymlaen i ystod o yrfaoedd gwerth chweil, gan gynnwys Uwch Baragyfreithwyr, Paragyfreithiwr Profiadol, Enillydd Ffioedd Iau, Cynghorydd Cyfreithiol a Swyddog Trin Achosion.

Dywedodd Darren Fountain, Rheolwr Maes Dysgu Busnes a Thechnoleg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:

"I lawer o brentisiaid, mae’r cwrs Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX Lefel 3 yn fan cychwyn ar gyfer eu gyrfa ym maes y gyfraith. Rydym yn falch y gallant nawr barhau â'r daith honno gyda ni drwy'r brentisiaeth Lefel 5 newydd, gan ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder uwch sydd eu hangen i gymryd y cam nesaf yn eu proffesiwn."

Mae Prentisiaeth Lefel 5 Gwasanaethau Cyfreithiol CILEX ar gael o fis Medi 2026 ac mae'n berthnasol i unigolion cymwys a gyflogir yn y sector cyfreithiol sydd yn barod yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 perthnasol.

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Lefel 5 ewch i wefan y Coleg neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk.