Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill yng Ngwobrau STEM Cymru 2025

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill yng Ngwobrau STEM Cymru 2025

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad at faes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru, gan gipio gwobr Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus).

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau STEM Cymru 2025 mewn seremoni wobrwyo fawreddog dan ofal y ddarlledwraig Lucy Owen. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd, i ddathlu cyflawniadau rhagorol ar draws STEM, gan gydnabod yr unigolion a’r sefydliadau blaengar sy’n llywio arloesedd ac yn gwneud cyfraniadau sylweddol i’r sector yng Nghymru.

Ochr yn ochr â 13 enillydd arall a phump a gafodd Ganmoliaeth Uchel, enillodd Coleg Gŵyr Abertawe deitl Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) i gydnabod ei waith o ran cynyddu cyfranogiad i fenywod ym maes STEM trwy’r fenter Addysg a Thu Hwnt.

Mae Addysg a Thu Hwnt yn mynd i’r afael ag anghenion sgiliau STEM a’r sector adeiladu wrth roi sylw i rwystrau cymdeithasol-economaidd rhanbarthol. Wedi’i hariannu yn llwyr gan y Coleg, mae’n canolbwyntio ar greu piblinellau talent ar lefel uchel trwy addysg ac allgymorth cynhwysol, dan arweiniad cyflogwyr.

Ers ei lansio, mae’r Coleg wedi ymgysylltu â dros 150 o gyflogwyr, mwy na 50 o staff ar draws pedair cyfarwyddiaeth, a nifer o gyrff dyfarnu i gyd-greu chwe llwybr sector newydd. Mae dros 160 o ddysgwyr eisoes wedi cael lleoliadau newydd, gyda 74 o gofrestriadau ychwanegol ar gyrsiau adeiladu rhan-amser newydd yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.

Mae’r nifer sy’n manteisio ar brentisiaethau adeiladu wedi cynyddu 28% tra bod nifer y myfyrwyr adeiladu llawn amser a rhan-amser wedi cynyddu 15% yn gyffredinol. Mae’r fenter yn cefnogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn benodol fel menywod, disgyblion ysgol, oedolion economaidd anweithredol a’r rhai sy’n newid gyrfa. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi bod yn ganolog i’r fenter, gydag allgymorth ar draws canolfannau cymunedol, ysgolion a ffeiriau swyddi.

Mae Gwobrau STEM Cymru yn parhau i daflu goleuni ar y gwaith hynod sy’n cael ei wneud o fewn y sector STEM — gan roi sylw i heriau megis prinder sgiliau, cynaliadwyedd, a’r angen am fwy o amrywiaeth. Nid yn unig mae’r gwobrau’n dathlu arloesedd ond maen nhw hefyd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol STEM yng Nghymru.

Daeth y seremoni â chystadleuwyr y rownd derfynol at ei gilydd o bob cwr o Gymru i gystadlu mewn 14 categori, yn amrywio o Fusnes STEM Newydd y Flwyddyn i Gyfraniad Rhagorol i STEM.

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymrwymo i ddatblygu’r sector STEM yng Nghymru trwy ddefnyddio dull beiddgar, cynhwysol a chydweithredol sy’n alinio addysg, diwydiant a chymuned” meddai’r Pennaeth Dros Dro, Paul Kift. “Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi ennill Gwobr Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus), sydd yn dyst enfawr i ymroddiad a gweledigaeth ein staff cymorth ac addysgu. Am ddigwyddiad anhygoel ac roedd y cystadlu’n frwd iawn – diolch yn fawr i Wobrau STEM Cymru am yr anrhydedd hwn, a llongyfarchiadau i bawb!”.

Dywedodd Liz Brookes, Cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru:

“Bob blwyddyn, rydyn ni’n cael ein syfrdanu gan safon y cystadleuwyr yn y rownd derfynol a’n henillwyr. Maen nhw’n gwthio ffiniau, yn creu newid, ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn yn eu hôl troed. Mae’n fraint dathlu’r rhai sy’n gyrru Cymru ymlaen fel hyb arloesedd a thalent STEM.”

Ychwanegodd Matthew Taylor, Cyfarwyddwr Arloesedd Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, prif noddwr y gwobrau:

“Mae enillwyr 2025 yn enghraifft o’r creadigrwydd, y cydweithio a’r ymrwymiad sy’n diffinio’r sector STEM sy’n tyfu yng Nghymru. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydyn ni’n falch o gefnogi digwyddiad sy’n taflu goleuni ar y bobl a’r sefydliadau sy’n siapio dyfodol gwyddoniaeth a thechnoleg ein cenedl.”

Mae Gwobrau STEM Cymru wedi’u trefnu ar y cyd gan Grapevine Event Management a’r asiantaeth gyfathrebu greadigol jamjar, ac fe’u cefnogir gan Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, CSA Catapult a Wynne Jones IP.

Enillwyr Gwobrau STEM Cymru 2025:

•    Gwobr Cyfraniad Rhagorol i STEM: Dr Drew Nelson OBE, BSc, PhD, FREng
•    Menyw STEM y Flwyddyn: Emily Roberts – M-SParc
•    Llysgennad STEM y Flwyddyn: Alexis Dabee Saltmarsh – Coleg Gwent
•    Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Nid er elw): Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel
•    Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus): Coleg Gŵyr Abertawe
•    Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Preifat): Dragons Rugby Limited – Dragons STEM Education
•    Seren Ddisglair STEM y Flwyddyn: Phoebe Rintoul – Ipsen Biopharm Ltd
•    Tîm STEM y Flwyddyn: Science Made Simple
•    Gwobr Arloesedd mewn STEM: Gavin Griffiths Group
•    Busnes STEM Newydd y Flwyddyn: Nellie Technologies Ltd
•    Gwobr Cynaliadwyedd STEM: Nellie Technologies Ltd
•    Busnes Rhyngwladol STEM y Flwyddyn: Laser Wire Solutions
•    Cwmni STEM y Flwyddyn (Dros 50 o Weithwyr): DVLA
•    Cwmni STEM y Flwyddyn (Llai na 50 o Weithwyr): Cansford Laboratories Ltd

Canmoliaeth Uchel:

•    Gwobr Arloesedd mewn STEM: Genesis Biosciences
•    Tîm STEM y Flwyddyn: Tîm Gŵyl Gwyddoniaeth Gymunedol – Prifysgol De Cymru
•    Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus): Cynghrair SPARC – Coleg Sir Benfro
•    Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Preifat): M-SParc a Sgil Sparc
•    Seren Ddisglair STEM y Flwyddyn: Lilly Phillips – Tenneco Walker ac Ana-Mah Din – Techniquest