Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Statws Canmoliaeth Beacon yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau 2025/26, sy’n dathlu rhagoriaeth ac arloesedd ar draws addysg bellach yn y DU.
Mae’r Coleg wedi cael ei gydnabod am ei Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles sy’n arwain y sector, ac sydd wedi cael effaith fesuradwy ar ddysgwyr a staff. Ers 2019, mae’r tîm Lles wedi tyfu o wyth arbenigwr i 28, sy’n golygu felly bod lles yn flaenoriaeth strwythurol. Mae cyfranogiad dysgwyr wedi codi o 3,158 i 9,530, ac mae cyfranogiad staff wedi cynyddu 304%.
Mae mentrau fel gwasanaeth cwnsela 24/7, profion sgrinio am ganser, profion PSA, a chymorth menopos wedi gwella canlyniadau iechyd a chryfhau diwylliant cynhwysol y Coleg. Gydag 87% o staff yn graddio’r cynnig lles yn gadarnhaol, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i arwain y ffordd o ran adeiladu amgylchedd rhagweithiol a chefnogol i bawb.
Rydyn ni’n falch dros ben o gael ein henwi fel coleg â statws canmoliaeth yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau eleni. Edrychwn ymlaen at glywed pwy yw cystadleuwyr y rownd derfynol yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas y Colegau ar 18 Tachwedd.