Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn agor cyfleuster gorchuddio lloriau newydd i ateb y galw yn y diwydiant

Coleg Gŵyr Abertawe yn agor cyfleuster gorchuddio lloriau newydd i ateb y galw yn y diwydiant

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi cyfleuster hyfforddi Gorchuddion Lloriau newydd sbon ar gampws Llys Jiwbilî yn Fforestfach, Abertawe.

Mae'r cyfleuster pwrpasol hwn wedi'i ddatblygu i hwyluso’r gwaith o ddarparu'r brentisiaeth Gorchuddio Lloriau Lefel 2. Mae’r brentisiaeth yn rhaglen arbenigol sydd wedi ei gynllunio i roi’r sgiliau, yr arbenigedd technegol a'r profiad ymarferol i fyfyrwyr fel y gallant symud ymlaen o fewn y sector. Fel yr unig ddarparwr sy'n cynnig y brentisiaeth hon yng Nghymru, mae'r Coleg yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â bylchau sgiliau a hybu datblygiad y gweithlu ar draws y diwydiant.

Crëwyd y cyfleuster newydd hwn er mwyn ymateb yn uniongyrchol i'r galw cynyddol gan gyflogwyr a'r sector ehangach. Mae'n cynnig amgylchedd pwrpasol (o safon y diwydiant) lle gall dysgwyr fireinio ar eu technegau, ennill profiad ymarferol ac uwchsgilio yn unol ag arferion proffesiynol cyfredol.

Dywedodd Lucy Bird, Rheolwr Masnachol Coleg Gŵyr Abertawe:

“Mae agor y cyfleuster newydd hwn yn gam sylweddol ymlaen i'r Coleg. Fel unig ddarparwr y brentisiaeth hon yng Nghymru, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau'r safonau uchaf posib o ran cynnig hyfforddiant a chymorth i'n dysgwyr a'n cyflogwyr. Mae'r cyfleuster pwrpasol hwn yn caniatáu i'n hyfforddwyr ddarparu addysgu ymarferol a pherthnasol i'r diwydiant sy'n adlewyrchu gweithleoedd go iawn, tra hefyd yn rhoi hyder i gyflogwyr drwy sicrhau bod eu staff yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo."

Ychwanegodd Neil Brayshaw, Cyfarwyddwr Dros Dro Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg:

"Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gynnig y cyfleuster newydd hwn o safon y diwydiant i gefnogi anghenion sgiliau o fewn y diwydiant gosod lloriau. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cyflogwyr i'n diwrnod galw heibio i arddangos y cyfleuster newydd, trafod gofynion sgiliau gyda'n tîm darparu ac arwain, yn ogystal ag ateb cwestiynau ynghylch sut y gallwn gefnogi twf eich busnes trwy hyfforddiant a phrentisiaethau pwrpasol."

Dywedodd Keith Aspinwall o Heritage Carpet and Flooring Ltd:

"Rwy’n falch iawn o weld Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig prentisiaeth mewn gosod lloriau. Rydyn ni wedi bod yn aros i rywun gynnig cymhwyster o’r fath o fewn y diwydiant ers tro byd. Fe wnes i recriwtio prentis 18 mis yn ôl ac rwy'n falch iawn o ddweud ei fod wedi bod yn mynd o nerth i nerth dan hyfforddiant y tîm, ac rydw i’n derbyn adborth bob mis.

Mae'r brentisiaeth yn cynnwys ystod eang o dasgau fel hunan-lefelu lloriau gorffenedig ac ati, a byddwn yn bendant yn annog cyflogwyr i gofrestru prentisiaid ar y cwrs."

I nodi lansiad y cyfleuster newydd, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gwahodd cyflogwyr i fynychu diwrnod galw heibio pwrpasol ddydd Mercher 13 Mai. Gall cyflogwyr alw heibio ar amser cyfleus rhwng 9am a 4pm i weld y cyfleuster, cwrdd yn uniongyrchol â'r tîm a thrafod y rhaglen brentisiaethau, gofynion eu gweithlu a'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr.

Gallwch fwcio lle ar y diwrnod galw heibio drwy ddefnyddio'r linc hon.

Dyma gyfle gwerthfawr i fusnesau archwilio sut y gall prentisiaeth mewn gorchuddio lloriau ddatblygu sgiliau gweithwyr a chynnig ffordd hirdymor o hybu twf.

Am ragor o wybodaeth neu fanylion am y sesiwn galw heibio ar 13 mai, e-bostiwch training@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284400.