Mae siarad yn uniongyrchol â staff arbenigol y Coleg yn ffordd wych o archwilio’r prentisiaethau sydd ar gael yng ngholeg Gŵyr Abertawe, a gallwch wneud hyn yn ein Ffair Prentisiaethau ar ddydd Mercher 3 Mehefin ar gampws Tycoch o 3.30pm tan 7:30pm.
Cofrestru ar gyfer y Ffair Prentisiaethau.
Byddwch yn cael cyfle i siarad â staff y Coleg a chyflogwyr o ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys Codi Group, JCP Solicitors, Castell Howell a Heddlu Dyfed Powys.
Mae prentisiaid yn chwarae rôl gynyddol bwysig yn y broses o ddatblygu sgiliau, cefnogi busnesau a chreu cyfleoedd gyrfa ledled y rhanbarth. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae prentisiaethau yn parhau i helpu dysgwyr i ennill profiad ymarferol a chymwysterau ac maent o fudd i gyflogwyr lleol gan eu bod yn elwa o sgiliau arbenigol y prentisiaid.
Mae prentisiaethau ar gael o lefel 2 hyd at lefel gradd, ac maent yn darparu cyfleoedd i ymadawyr ysgol, unigolion sydd am newid gyrfa a gweithwyr sy’n dymuno uwchsgilio mewn pob math o sectorau gan gynnwys adeiladu, peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, cyfrifeg a’r cyfryngau creadigol.
Ydych chi’n gyflogwr sydd eisiau recriwtio prentis?
Fel darparwr prentisiaethau arobryn, rydyn ni’n cydweithio â 673 o gyflogwyr ac yn cefnogi bron i 3,000 o brentisiaid bob blwyddyn. Rydyn ni’n falch o’n rhaglenni arbenigol sydd wedi’u teilwra i anghenion penodol ac rydyn yn gweithio gyda sefydliadau i gynnig atebion hyfforddiant sy’n cyd-fynd yn berffaith â’u hanghenion (e.e. bylchau sgiliau), fel y gallwn greu llwybrau dilyniant clir i ddysgwyr.
Bydd cyflogwyr sy’n dod i’r digwyddiad hefyd yn cael cyfle i siarad â staff y Coleg am faterion ynghylch recriwtio, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.
Ydych chi am gael mwy o wybodaeth ynghylch sut y gall prentisiaethau ddatblygu eich busnes? Siaradwch â’n tîm.