Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau llwyddiant mawr yn ystod Pencampwriaethau Colegau Cymru a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Ar ddiwedd y Pencampwriaethau, a gafodd eu cynnal yng Nghaerdydd, cafodd y coleg ei enwi'n Bencampwyr Colegau Cymru mewn pêl-rwyd, hoci merched, pêl-droed dynion a thennis dynion, ac roedd un myfyriwr wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm golff dynion Cymru hefyd.
“Roedd hyn yn berfformiad gwych sy'n golygu y bydd gan Goleg Gŵyr Abertawe fwy o gynrychiolwyr - tua 40 - ar gyfer ardal Cymru nag unrhyw goleg arall yng Nghymru pan fyddwn yn teithio i Newcastle ym mis Ebrill ar gyfer Pencampwriaethau Cenedlaethol (neu Brydeinig) AOC," meddai'r Rheolwr Maes Dysgu Marcus Coxon.
“Mae'n arwydd pellach o'r llwyddiant a'r cyfle rydym yn eu darparu'n gyson i'n dysgwyr gyda'r Academïau gwych a rhaglen chwaraeon a gwella iechyd gyffredinol y coleg.”
Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi cyrraedd y rowndiau terfynol mewn nifer o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys rygbi dynion a thennis merched.