Bydd myfyrwyr ar gwrs actio Coleg Gŵyr Abertawe, sy'n gwrs blwyddyn arbenigol, yn camu i'r llwyfan cyn bo hir o dan gyfarwyddyd yr actor Richard Mylan.
Yn wyneb cyfarwydd ar deledu cenedlaethol, mae'r cynyrchiadau y bu Richard yn rhan ohonynt yn cynnwys Waterloo Road, Casualty, Doctors, My Family, Bad Girls a Silent Witness. Mae wedi gweithio ar sawl perfformiad yn y theatr hefyd, gan gynnwys Starlight Express yn West End Llundain.
“Mae pawb sy'n rhan o'r Cwmni Actio yn gyffrous iawn i weithio gyda Richard," meddai'r darlithydd Wyn Richards. “Daeth i weld Under the Spotlight, y perfformiad arddangos, ac ers hynny mae arwain gweithdy ymarferol gyda'r myfyrwyr, a oedd yn brofiad hynod gadarnhaol."
“Rydym nI i gyd yn edrych ymlaen at ddechrau ymarferion ym mis Ionawr," ychwanegodd y darlithydd Rachel Dooley. “Aeth y myfyrwyr i weld Richard yn ddiweddar mewn cynhyrchiad o The Cherry Orchard yn Theatr y Sherman Caerdydd, a chawson nhw eu hysbrydoli'n fawr gan hynny, a gan y sesiwn holi ac ateb gyda Richard ar ôl y perfformiad.”
Bydd Richard yn gweithio gyda'r myfyrwyr ar ddarn sy'n cynnwys gwaith y dramodydd Cymraeg cyfoes Gary Owen, gyda pherfformiadau'n cael eu cynnal yn Adain y Celfyddydau yn Theatr y Grand ar 15 a 16 Chwefror 2018.
“Rwy'n gyffrous iawn i gael cyfle i gydweithio â myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe ac mae'n wych dod yn ôl i Theatr y Grand, lle y dechreuodd fy ngyrfa,” meddai Richard. “Dwi'n methu aros i gael dechrau arni."
https://www.gcs.ac.uk/cy/music-media-and-performance