Bu llwyddiant arbennig i’n myfyrwyr yng nghategorïau Celf, Dylunio a Thechnoleg, yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar.
- Gwaith Creadigol 2D dan 19 oed – 1af Emily Arnold | 2il Amelia Hill
- Print Lliw Ffotograffiaeth dan 19 oed – 3ydd Natasha Butchers
- Argraffu dan 19 oed – 3ydd Max Arnold
- Gwaith Creadigol 3D Tecstilau Bl. 10 a dan 19 oed - 1af Dilwen Pitt
- Ffasiwn dan 19 oed – 1af Ella Waters
- Celf dan 19 oed – 2il Max Arnold
- Dylunio a Thechnoleg dan 19 oed - 1af Luke Macbride
Yn ogystal â hyn aeth gwobr arbennig y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg i Luke Macbride am gyflwyno’r darn o waith gorau i’r rhai dan 19 o’r holl gystadlaethau celf, dylunio a thechnoleg yn yr eisteddfod. Bydd Luke yn derbyn ei fedal mewn seremoni arbennig yn y pafiliwn ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Llun 28ain Fai.
“Mae Luke a Dilwen yn astudio ar gwrs Safon Uwch Tecstilau gyda Donna McCann Gray ar gampws Gorseinon, a gweddill y myfyrwyr i gyd ar gwrs Celf Gain gyda Gill Day-Thomas a Nigel Williams,” meddai ein Hyrwyddwr Dwyieithrwydd, Anna Davies. “Diolch yn fawr iddyn nhw am annog y myfyrwyr i gystadlu. Hoffwn ddweud llongyfarchiadau mawr i’r holl fyfyrwyr uchod, sydd wedi llwyddo mewn cystadleuaeth uchel ei pharch.”
Mae Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd yn ystod hanner tymor mis Mai. Mae’r holl enillwyr yn cael eu gwahodd i dderbyn eu tystysgrif a medal ar ddydd Sadwrn 2il Fehefin.