Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi penodi Stuart Davies fel ei Ymgynghorydd Datblygu Busnes newydd.
Cafodd Stuart ei fagu o fewn tafliad carreg i ystad Hill House y Coleg yn Nhycoch a threuliodd 14 o flynyddoedd yn chwarae rygbi ar y safon uchaf, gan gynrychioli Abertawe a Chymru yn rheolaidd. Ar ôl ei ddyddiau’n chwarae rygbi, casglodd Stuart ddyfnder helaeth o wybodaeth ar draws ystod eang o sectorau ac arbenigeddau busnes.
Mae Stuart wedi bod yn gyfrifol yn y gorffennol am gyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, prosesau tendro sylweddol yn ogystal ag arbenigo mewn cynllunio strategol/busnes a rheoli risg.
Daw Stuart â chyfoeth o brofiad gydag ef i Goleg Gŵyr Abertawe, wrth iddo weithio’n flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu a Gwasanaethau Eiddo Gwalia, Prif Weithredwr tîm rygbi’r Dreigiau a Chyfarwyddwr Datblygu Busnes Morganstone.
Mae ganddo rwydweithiau eithriadol o dda ledled Cymru, ac fe’i hadnabyddir hefyd am ei waith fel pyndit, sylwebydd a gohebydd rygbi i ddarlledwyr teledu a radio cenedlaethol.
Mae’r Coleg wedi penodi Stuart er mwyn cryfhau ei berthnasau presennol â cheleintiaid ac er mwyn creu partneriaethau arfaethedig gyda sefydliadau blaengar eraill.
“Rwyf wrth fy modd o fod yn gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe,” meddai Stuart.
“Fel unigolyn a gafodd ei fagu yn Abertawe, rwyf yn ymwybodol iawn o enw da’r Coleg a’r rôl y mae’n ei chwarae o ran cefnogi cymaint o unigolion a chwmnïau gyda’u hanghenion hyfforddi a datblygu.
“Yn wir, rwyf wedi profi hyn drosof fy hun a gobeithiaf y bydd fy nghefndir proffesiynol a phersonol yn helpu’r Coleg i gyflawni ymhellach ei amcanion busnes.”
“Mae’n bleser croesawi Stuart i Goleg Gŵyr Abertawe” meddai Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes.
“Mae gan Stuart broffil ardderchog a haeddiannol o ganlyniad i’w gyflawniadau gwych ar y cae rygbi. Mae ganddo hefyd enw da ymhlith cymuned fusnes Cymru oherwydd yr arbenigedd y mae ef wedi’i greu o fewn y diwydiant. Rydym yn iawn o allu sicrhau ei wasanaethau - mi fydd ein cleientiaid a’n partneriaid yn sicr o elwa ar ôl iddo ddechrau gweithio i’r Coleg.”
Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu busnes (chwith) gyda Stuart Davies