Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gefnogi digwyddiad TEDxAbertawe 2018, sy’n cael ei gynnal ddydd Sadwrn 2 Mehefin rhwng 5pm a 9pm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Gyda’i siaradwyr gwadd nodedig a’i berfformiadau byw, mae TEDxAbertawe - sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn - yn un o uchafbwyntiau’r calendr y mae pobl yn edrych ymlaen yn eiddgar ato. Roedd y tocynnau ar gyfer digwyddiad 2018 wedi gwerthu allan o fewn awr.
Bydd Hyfforddiant GCS - braich hyfforddiant busnes y Coleg - yn noddi derbyniad â diodydd ar ôl y digwyddiad yng Ngwesty Morgans o 9.15pm ac mae croeso i bawb sy’n bresennol yn nigwyddiad TEDxAbertawe.
"Dwi bob amser wedi mwynhau digwyddiadau TEDx. Dwi’n teimlo eu bod nhw’n gyfle gwych i ddod ag amrywiol bobl a syniadau at ei gilydd,” meddai Jayne Brewer, Pennaeth Datblygiad Cyflogwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. “Mae’r ffaith bod y tocynnau wedi cael eu prynu mor gyflym yn dangos yn glir pa mor boblogaidd yw digwyddiadau blaengar ac ysbrydoledig sy’n gwneud i ni feddwl yma yn y ddinas. Dyn ni’n falch ein bod ni’n gallu cefnogi digwyddiad 2018 trwy gynnal y derbyniad yng Ngwesty Morgans, lle mae sgyrsiau a chyfleoedd rhwydweithio y diwrnod yn gallu parhau.”
Mae gan drefnwyr y digwyddiad Steve Stokes a Lee Ibbotson gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer TEDx yn Abertawe ac maen nhw’n awyddus i sicrhau bod y cysyniad yn cael cefnogaeth er mwyn tyfu.
"Dyn ni wrth ein bodd bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymuno a gobeithio y bydd sefydliadau eraill ar draws y ddinas yn gweld y potensial ac yn cymryd rhan yn y dyfodol,” meddai Steve. “Nid yn unig mae hwn yn gyfle gwych i rannu syniadau arloesol ac anerchiadau ysbrydoledig, dyn ni hefyd yn gobeithio rhoi llwyfan i genedlaethau’r dyfodol i ddefnyddio eu llais a rhannu eu profiadau.”