Skip to main content

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO) /Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO)

Rhan-amser
Lefel 5/6
PGCE
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

UWTSD logo

 


Ydych chi eisiau addysgu ym maes addysg bellach, addysg i oedolion neu hyfforddiant galwedigaethol?

Mae addysgu yn y sector ôl-16 yn un o’r ffyrdd mwyaf uniongyrchol i ddefnyddio eich arbenigedd er lles y genhedlaeth nesaf. Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n cynnig dau gymhwyster proffesiynol, hyblyg ac sy’n canolbwyntio ar ymarfer.

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) - PCET

Yn addas ar gyfer unigolion sy’n symud ymlaen i addysg bellach neu addysg i oedolion.

Os ydych chi’n meddu ar radd ac yn dymuno addysgu dysgwyr 16+, mae ProfGCE yn gymhwyster addysgu sy’n datblygu addysgeg pwnc ac ymarfer proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth mewn perthynas â’r dyniaethau, chwaraeon a chyrsiau STEM. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis modiwlau Lefel 7 fel rhan o’ch astudiaethau.

Yn addas ar gyfer: graddedigion, unigolion sydd eisiau newid gyrfa a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sy’n meddu ar gymwysterau lefel gradd ac yn dymuno dod yn athro yn y sector AB a sgiliau.

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg — AHO

Yn addas ar gyfer ymarferwyr profiadol sy’n symud ymlaen i rolau addysgu galwedigaethol.

Os oes gennych chi brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant ynghyd â chymwysterau galwedigaethol perthnasol, mae'r llwybr hwn (sy’n cynnwys modiwlau Lefel 5 a Lefel 6) wedi'i gynllunio i adeiladu eich profiad addysgu. Mae’r cymhwyster yn bennaf yn addas ar gyfer unigolion sy’n addysgu pynciau ymarferol sy’n seiliedig ar sgiliau - megis Adeiladu, Iechyd a Harddwch, Cerbydau Modur, Lletygarwch neu unrhyw sectorau galwedigaethol eraill.

Yn addas ar gyfer: crefftwyr profiadol, gweithwyr proffesiynol mewn salonau, technegwyr ac ymarferwyr sy'n barod i drosglwyddo eu sgiliau mewn coleg neu amgylchedd hyfforddi.

Mae'r ddwy raglen yn dechrau ym mis Medi ac yn cael eu cyflwyno'n rhan-amser ochr yn ochr ag ymarfer addysgu.

Bydd deiliaid y cymwysterau hyn yn addas i ymgeisio am rolau addysgu addysg bellach, chweched dosbarth, addysg i oedolion a rolau hyfforddi a datblygu o fewn sectorau ôl-orfodol ac addysg i oedolion. Ystod cyflogau presennol darlithwyr yw £32,000 to £51,000, gyda chynnydd i'r rhai sy'n symud i rolau rheoli neu arwain, gweler NASUWT | Pay Scales (Wales) am ragor o fanylion.

Gwybodaeth allweddol

  • Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO). Mae gradd 2:2 neu uwch yn ddymunol, neu gyfwerth cydnabyddedig, mewn maes pwnc perthnasol. Os ydych yn cynnig pwnc galwedigaethol, fel arfer bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych rywfaint o brofiad galwedigaethol perthnasol hefyd.
  • Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO). Bydd angen cymhwyster galwedigaethol Lefel 3 arnoch a phrofiad perthnasol yn y diwydiant/sector i ymuno â’r cwrs. Pan fyddwch gyda ni, byddwch yn datblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o ddysgu, addysgu ac asesu yn eich pwnc.​
  • Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE)  ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol (AHO) (Lefel 7) Yn ail flwyddyn y cwrs byddwch yn ael cyfle i astudio modiwlau Lefel 7. Cofiwch fod meini prawf yn berthnasol a byddwch yn cael cyfle i'w trafod yn y cyfweliad. Vlwyddyn 2 (modiwlau Lefel 7) - Yr Ymarferydd Proffesiynol, Ymarfer Proffesiynol, Ymchwil Ymarferwyr.

I’r ddau gwrs:

  • Mae gradd C neu uwch, neu’r cyfwerth mewn TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith yn ddymunol
  • Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Manwl ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifio i Wasanaeth Diweddaru DBS. (Bydd angen y cyfwerth tramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn byw yn y DU)
  • Gofynion iaith Saesneg - Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf neu nad ydych wedi astudio yn Saesneg o'r blaen, fel arfer rydym yn gofyn am yr hyn sy'n gyfwerth a sgor o 6.0 yn System Brofi Iaith Saesneg Ryngwladol (Prawf Academiadd IELTS), gyda dim llai na 5.5 ym mhob un o'r isbrofion. Mae'n bosibl y byddwn yn derbyn profion Iaith Saesneg eraill hefyd.
  • Oriau addysgu - Rhaid i ymgeiswyr rhan-amser wneud 100 awr o addysgu fel rhan o'r rhaglen. Argymhellir bod myfyrwyr yn gwneud 50 awr o addysgu, a 6 awr o arsylwi tiwtor profiadol yn y flwyddyn gyntaf a 50 awr o addysgu yn yr ail flwyddyn.

Modiwlau

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg ar Gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Blwyddyn 1 Lefel 5

  • Paratoi ar gyfer Dysgu ac Addysgu
  • Ymarfer Cynhwysol yn AHO
  • Sgiliau Digidol i Gynorthwyo Dysgu ac Addysg Arloesol.

Blwyddyn 2 Lefel 6/7

  • Yr Ymarferydd Proffesiynol Newydd
  • Ymarfer Proffesiynol
  • Ymchwil Ymarferydd.
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (ProfGCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Blwyddyn 1 Lefel 6

  • Paratoi ar gyfer Dysgu ac Addysgu
  • Ymarfer Cynhwysol yn AHO
  • Sgiliau Digidol i Gynorthwyo Dysgu ac Addysg Arloesol.

Blwyddyn 2 Lefel 6

  • Yr Ymarferydd Proffesiynol Newydd
  • Ymarfer Proffesiynol
  • Ymchwil Ymarferydd.

Asesu

Nid oes arholiadau, gwaith cwrs yw’r holl asesiadau.

Cewch eich asesu mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol, yn ogystal â gwaith cwrs ysgrifenedig.

Lleoliadau

Disgwylir i fyfyrwyr sicrhau eu lleoliad eu hunain, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi’r broses hon. Byddwn yn trafod y broses ar gyfer dod o hyd i leoliadau ymhellach yn ystod y cyfweliad.

Gwnawn bob ymdrech i sicrhau y cewch chi’r profiad mwyaf cynhyrchiol a chefnogol posibl o ddatblygiad proffesiynol.

Costau’r cwrs

£2,600 y flwyddyn Gallai myfyrwyr fod yn gymwys i gael bwrsari a chymorth i astudio ar y rhaglenni ar yr amod eu bod yn diwallu meini prawf cymhwystra penodol.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol - gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

  • Mae angen gliniadur arnoch chi i gwblhau’r cwrs - mae gliniaduron yn costio £400 (ac uwch) - nodwch, bydd gan fyfyrwyr fynediad i Microsoft Office 365.
  • £49.50 am wiriad DBS sef elfen hanfodol o’r cwrs
  • £16 i ymuno â gwasanaeth diweddaru DBS
  • Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
  • Llungopïo, deunydd ysgrifennu a chostau offer (e.e. cofion bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Swyddfa Academaidd UWTSD