Skip to main content

Office 365 i Ddechreuwyr

Rhan-amser
Lefel Mynediad 3
AGORED
Llwyn y Bryn
30 wythnos

Ffôn: 01792 284021   E-bost: abe@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad cyfeillgar a hawdd i  Microsoft Office 365, ar gyfer pob lefel, p’un a ydych yn ddechreuwr pur neu yn rhywun sydd eisiau cael mwy o hyder.

Addysgir y cwrs ar draws tri thymor 10 wythnos.

Yn y tymor cyntaf, byddwn ni’n archwilio Microsoft Word a dysgu hanfodion creu a golygu dogfennau. Byddwn ni hefyd yn edrych ar OneDrive a Forms mewn ffordd syml, ymarferol.

Yn yr ail dymor, byddwn ni’n symud ymlaen i Microsoft Excel, lle byddwn ni’n dysgu sut i ddefnyddio taenlenni ar gyfer tasgau pob dydd fel cyfrifiadau syml a chreu siartiau – dim byd rhy gymhleth, dim ond sgiliau defnyddiol y gallwch adeiladu arnynt.

Byddwn ni hefyd yn cyflwyno Outlook a Teams yn fras. Yn y tymor olaf, byddwn ni’n mynd yn greadigol gyda  Microsoft PowerPoint a Sway, gan roi cyflwyniadau at ei gilydd mewn ffordd hwyliog ac ymlaciol.

Byddwch chi’n dysgu:

  • Prosesu geiriau
  • Taenlenni
  • Creu a rhoi cyflwyniadau digidol.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ac nid oes angen profiad. 

Mae llyfrynnau yn cael eu cwblhau yn y dosbarth a’u marcio gan y tiwtor.

Llythrennedd Digidol – Sgiliau Hanfodol Cymru (Lefel 1 a 2).

Nid oes costau cwrs ac fel arfer mae gwibdaith yn cael ei threfnu ar gyfer y Nadolig neu’r haf.