Help i Lenwi Ffurflenni – Sesiwn Blasu Am Ddim
Ffôn: 01792 284021 E-bost: abe@gcs.ac.uk
Trosolwg
Dysgwch sgiliau hanfodol ar gyfer llenwi ffurflenni papur ac ar-lein yn hyderus ar y cwrs blasu dwy awr hwn am ddim. Mae’n berffaith i’r rhai:
- sy’n cael ffurflenni yn llethol ac yn ddryslyd
- sydd eisiau teimlo’n fwy hyderus gyda cheisiadau ar-lein
- sydd angen cymorth i ddeall terminoleg ffurflenni cyffredin
- a hoffai ddysgu tips a llwybrau byr defnyddiol.
Yn y gweithdy cyfeillgar, cefnogol hwn, byddwch chi’n:
- ymarfer llenwi mathau cyffredin o ffurflenni
- dysgu strategaethau defnyddiol ar gyfer mynd i’r afael â cheisiadau cymhleth
- dod yn gyfforddus wrth lywio ffurflenni ar-lein
- gofyn cwestiynau mewn amgylchedd ymlaciol.
- Does dim angen profiad. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael.
Gwybodaeth allweddol
Dim gofynion mynediad.
Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb a bydd yn seiliedig ar anghenion a nodau’r dysgwr unigol.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i’n dosbarthiadau AGORED Cymru am 10 wythnos neu ddosbarthiadau Sgiliau Hanfodol Cymru am 30 wythnos i barhau i wella’ch hyder a’ch sgiliau.
Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol neu dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe.
Cwrs blasu dwy awr am ddim.