Dechrau Arni mewn Revit
Trosolwg
Bwriedir y cwrs rhagarweiniol hwn i unigolion sydd am gael profiad ymarferol o Autodesk Revit, meddalwedd Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM), a ddefnyddir yn eang ym meysydd pensaernïaeth, peirianneg, ac adeiladu. P’un ai ydych yn ddechreuwr neu’n pontio o blatfform CAD arall, mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen ymarferol yn arfau a nodweddion hanfodol Revit. Trwy arweiniad cam-wrth-gam, byddwch yn dysgu sut i greu, addasu, a rheoli modelau adeiladu, yn ogystal â chynhyrchu lluniadau a dogfennau manwl ar gyfer prosiectau byd go iawn.
Amcanion y cwrs:
- Deall egwyddorion craidd a rhyngwyneb Revit
- Dysgu sut i greu a thrin elfennau adeiladu sylfaenol (waliau, lloriau, toeon, ffenestri, ac ati)
- Datblygu sgiliau i lywio modelau 3D a chynhyrchu cynlluniau lloriau, golygon a thrychiadau
- Ymgyfarwyddo â llif gwaith BIM a’i raglenni wrth gydlynu prosiect
- Dysgu sut i baratoi taflenni, anodiadau, a dogfennau adeiladu
- Archwilio hanfodion rendro a delweddu yn Revit.
Gwybodaeth allweddol
Dim.
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb ar Gampws Tycoch.
Symud ymlaen i gymhwyster achrededig mewn Revit.