Dechrau Arni mewn Electroneg
Rhan-amser
Lefel 2
Tycoch
10 wythnos
Ffôn:
01792 284000 (Tycoch)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Nod y cwrs yw rhoi mynediad i chi i’r Diwydiant Electroneg. Bydd y cwrs yn datblygu’r sgiliau canlynol:
- Sodro
- Meddalwedd electroneg Autodesk Fusion
- Adeiladu cylched
- Chwilio am namau.
Amcanion:
- Deall egwyddorion systemau electronig a’u cymwysiadau
- Datblygu sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl beirniadol ar systemau electronig
- Dylunio a gosod prosiectau electronig.
Canlyniadau:
- Bydd myfyrwyr yn gallu egluro cysyniadau sylfaenol systemau electronig a’u cymwysiadau
- Bydd myfyrwyr yn gallu dylunio systemau electronig sylfaenol
- Bydd myfyrwyr yn gallu adeiladu systemau electronig.
Gwybodaeth allweddol
Dim gofynion mynediad ffurfiol. Amodol ar gyfweliad.
Bydd myfyrwyr yn adeiladu portffolio o dystiolaeth y gellid ei ddefnyddio i symud ymlaen i raglen amser llawn neu ran-amser.
Asesu:
- Asesiadau ymarferol drwy gydol y cwrs
Yn y Coleg gallech symud ymlaen i raglenni electroneg EAL Lefel 2/3.
Mae’r sector electroneg yn anhygoel o amrywiol:
- Roboteg
- Electroneg ddiwydiannol
- Technegydd cyfrifiadurol
- Technegydd clywedol
- Electroneg feddygol
- Technoleg cyfathrebu symudol
- Technegydd deintyddol (Systemau electronig)
- Nwyddau gwyn
- Nwyddau brown.
Gall y cwrs arwain at yrfa lewyrchus yn y diwydiant electroneg.