Skip to main content

Rheoli Cynnyrch Digidol Lefel 4 - Cymhwyster

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae'r cymhwyster Lefel 4 mewn Rheoli Cynnyrch Digidol yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i reoli cynnyrch digidol drwy gydol eu cylch bywyd.

Bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth gyfannol o dechnoleg a gofynion data a defnyddwyr, gan eu galluogi i arwain timau sy’n cynnig systemau, gwasanaethau, apiau neu feddalwedd mewn amgylchedd digidol.

Mae’r cwrs hefyd yn caniatáu dysgwyr i ddefnyddio adborth er mwyn cynnal a gwella cynhyrchion digidol dros amser. 

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat sy’n ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid y tu mewn a'r tu allan i'w timau datblygu digidol a thechnegol.

Mae hefyd yn addas ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu sgiliau arwain a chydlynu mewn perthynas â rheoli cynnyrch digidol.

Bydd dysgwyr yn gweithio â Thiwtor/Aseswr ymroddedig a fydd yn sicrhau bod lefel y cwrs yn cyd-fynd â rolau, sgiliau a gwybodaeth y dysgwr.

Yn bennaf, bydd y cwrs yn cael ei ddarparu dros Microsoft Teams, gydag ymweliadau â gweithleoedd a sesiynau wyneb yn wyneb ar gael os oes angen. Byddwn yn cadarnhau dyddiadau ac amseroedd yr hyfforddiant ar y cyd â’r dysgwr a'r cyflogwr i sicrhau cyn lleied o aflonyddwch i'r sefydliad ag sy’n bosib.

Unedau

Bydd dysgwyr yn cwblhau unedau gorfodol ac yn dewis unedau dewisol i deilwra'r cymhwyster i'w rôl. Gall unedau dewisol gynnwys pynciau fel:

  • Rheoli prosiectau ystwyth (agile)
  • Dylunio profiad defnyddiwr (UX)
  • Dadansoddi a delweddu data
  • Marchnata a chyfathrebu digidol
  • Rheoli cylch oes cynnyrch. 

Asesu

I gwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus bydd dysgwyr yn creu portffolio o dystiolaeth sy'n arddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau. Bydd hyn yn cael ei adolygu mewn cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda Thiwtoriaid/Aseswyr a'i ddefnyddio at ddibenion asesu. 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Smart Assessor, offeryn rheoli asesiadau ar-lein sy'n galluogi darparwyr, dysgwyr a chyflogwyr i fonitro cynnydd dysgwyr yn effeithiol. 

Manteision y Cwrs

  • Sicrhau cymhwyster cydnabyddedig
  • Datblygu sgiliau arwain a chydlynu
  • Magu arbenigedd mewn rheoli cynnyrch digidol
  • Gwella lefelau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Hybu dilyniant gyrfa mewn rolau digidol.

Gwybodaeth ychwanegol 

Mae'r brentisiaeth hefyd yn cynnwys cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif. Bydd y rhain yn uwchsgilio dysgwyr gyda chymwysterau sy’n cyfateb i  TGAU mewn Saesneg a Mathemateg os nad ydynt eisoes wedi cyflawni graddau A-C.