Skip to main content

Tystysgrif Gyffredinol Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH)

GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
11 Diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr a gweithwyr ym mhob sector sydd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle, neu weithwyr sydd â diddordeb mewn iechyd a diogelwch. 

Mae’r cymhwyster hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr iechyd, diogelwch a’r amgylchedd sydd am wella eu profiad a symud ymlaen yn eu gyrfa trwy ennill cymhwyster ffurfiol.

Mae’r cwrs yn bodloni gofynion academaidd ar gyfer sicrhau Aelodaeth Technegydd o’r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol ac aelodaeth Gysylltiol y Sefydliad Rhyngwladol Rheoli Risg a Diogelwch.

NG1, NG2.

Gwybodaeth allweddol

Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad cyn dechrau’r cwrs i drafod y cymhwyster ac i ddarganfod a yw lefel a chynnwys y cwrs yn addas.

Does dim angen i ymgeiswyr feddu ar unrhyw wybodaeth flaenorol am iechyd a diogelwch, ond, er gwybodaeth, bydd yr asesiad yn cynnwys tasg ysgrifenedig lle bydd gofyn iddynt greu adroddiad cryno ac arholiad ysgrifenedig.

Mae'r cymhwyster yn cynnwys dwy brif uned, rheoli iechyd a diogelwch, a rheoli peryglon yn y gweithle.

Mae rheoli iechyd a diogelwch yn cynnwys pedair elfen:

  • Pam y dylem reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Sut mae systemau rheoli iechyd a diogelwch yn gweithio a sut maent yn cael eu gweithredu
  • Rheoli risg a deall pobl a phrosesau
  • Monitro a mesur iechyd a diogelwch

Mae rheoli peryglon yn y gweithle yn cynnwys saith elfen:

  • Iechyd corfforol a seicolegol
  • Iechyd cyhyrysgerbydol
  • Sylweddau cemegol a biolegol
  • Materion cyffredinol yn y gweithle
  • Cyfarpar gwaith
  • Tân
  • Trydan

Bydd yr uned rheoli iechyd a diogelwch yn cael ei asesu trwy arholiad ar-lein, tra bydd rheoli peryglon yn y gweithle yn cael ei asesu trwy gwblhau asesiad risg.

Cost y cwrs yw £1150 a bydd hyn yn talu am gofrestriad NEBOSH, ffi arholiadau, diwrnod adolygu, man parcio a llawlyfrau cwrs. Ni fydd TAW yn effeithio ar y ffi hon.

Mae’n hanfodol bod ymgeiswyr yn dod ag ID ffotograffig i’r arholiad. Os na fyddant yn gwneud hyn, mae’n bosib na fyddant yn cael sefyll yr arholiad. 

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Rydym hefyd yn cynnal Noson Agored Addysg Oedolion ddydd Mawrth 30 Mehefin lle galli di gofrestru wyneb yn wyneb.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.