Olew OFTEC – Hyfforddiant ac Asesiad
Telephone: 01792 284400 Email: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs Hyfforddiant ac Asesu Olew OFTEC yn addas ar gyfer peirianwyr gwresogi profiadol a gweithwyr newydd sydd am ennill cymwysterau OFTEC cydnabyddedig.
Mae’r cwrs yn cwmpasu elfennau allweddol mewn perthynas â systemau olew ysgafn domestig a masnachol, gan gynnwys storio, cyflenwi, comisiynu, gwasanaethu a gosod. Bydd dysgwyr yn unol â safonau OFTEC a rheoliadau adeiladu eraill, bydd dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth fel y gallant weithio yn ddiogel ar systemau sy’n llosgi olew.
Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau hyfforddi ac asesu ac mae'n addas ar gyfer unigolion sydd am ennill cymhwyster cychwynnol, yn ogystal â pheirianwyr profiadol sydd angen ailasesiad i gynnal cofrestriad OFTEC.
Gwybodaeth allweddol
Bydd gan ymgeiswyr profiad perthnasol o blymio neu wresogi.
Bydd ymgeiswyr hefyd yn meddu ar gymwysterau priodol neu dystiolaeth o gymhwysedd, er mwyn cymryd rhan yn yr asesiad cychwynnol.
Mae’r ailasesiad yn addas ar gyfer peirianwyr cymwys OFTEC presennol sydd angen adnewyddu eu trwydded.
Cyflwynir y cwrs hwn drwy sesiynau yn yr ystafell ddosbarth a hyfforddiant ymarferol yn y gweithdy, ynghyd ag asesiadau ffurfiol.
Bydd y cwrs yn cynnwys yr unedau OFTEC canlynol:
- OFT10-101: Comisiynu/gwasanaethu jet pwysau domestig/masnachol ysgafn
- OFT10-105E: Gosod system olew
- OFT10-600a: Systemau storio a chyflenwi olew.
Mae dulliau asesu yn cynnwys profion amlddewis, asesiadau ymarferol dan oruchwyliaeth a thasgau ysgrifenedig.
Bydd y cwrs yn cymryd pedwar diwrnod i'w gwblhau (ar gyfer yr asesiad cychwynnol), neu ddau ddiwrnod ar gyfer ailasesiad.
Mae cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn caniatáu i beirianwyr gwresogi ddod gfrestru ag OFTEC neu barhau i fod yn gofrestredig. Mae’r cymhwyster hefyd yn eu galluogi i hunan-ardystio gosodiadau olew a chynnal gwaith comisiynu a gwasanaethu yn unol â rheoliadau'r diwydiant.
Mae cyfleoedd dilyniant yn cynnwys unedau OFTEC pellach (gosod tanciau neu systemau llosgwyr anwedd), technolegau gwresogi adnewyddadwy neu ddatblygu arbenigedd arbenigol o fewn y sector gwresogi.
Nid yw’r cwrs am ddim, cysylltwch â'r Coleg am fanylion ynghylc ffioedd.
Rhaid i ddysgwyr ddod â dogfen adnabod addas a thystiolaeth o gymwysterau lle bo'n berthnasol.
Cynhelir yr holl asesiadau yn unol â gofynion OFTEC.