Egwyddorion Diogelwch Tân (Highfield) Lefel 2 - Dyfarniad
GCS Training
Lefel 2
Highfield
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn:
01792 284400 (Llys Jiwbilî)
E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae gan bob gweithle rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod eu hamgylchedd yn ddiogel o ran risgiau tân. Yn y pen draw mae hyn yn golygu sicrhau bod gan eich tîm yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth ofynnol ynghylch diogelwch tân.
Anelir y cymhwyster hwn at y rhai sy’n ymwneud â rheoli tân a diogelwch ac sy’n gweithio mewn maes lle mae tân yn risg.
Bydd dysgwyr yn deall mai cyfrifoldeb pawb yw diogelwch tân, a byddant yn dysgu am achosion tân, peryglon cyffredin, ac asesiadau risg tân. Gall gynorthwyo’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth neu ddysgwyr sy’n paratoi ar gyfer cyflogaeth.
Gwybodaeth allweddol
Testunau
- Peryglon a risgiau
- Rheoli risgiau tân
- Egwyddorion ac arferion rheoli diogelwch tân yn y gwaith
- Rôl y swyddog tân dynodedig