Skip to main content

Technoleg Gwybodaeth Lefel 1 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1
BTEC Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn gyflwyniad i’r rolau sy’n bodoli yn y diwydiant TG.

Amcanion y cwrs: 

  • Ennill dealltwriaeth eang o TG a gallu astudio rhai meysydd yn fanylach
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o TG
  • Dysgu sut i greu gwefannau, ysgrifennu rhaglenni ac adeiladu cyfrifiaduron ar lefel ragarweiniol
  • Datblygu a chreu gemau cyfrifiadurol ynghyd â golygu eich fideo eich hun
  • Dilyn rhaglen astudio sy’n galluogi dilyniant i’r cwrs Diploma Cyntaf Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol
  • Magu hyder trwy ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol.

Deilliannau'r cwrs:

  • Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth ar amrywiaeth o agweddau ar y diwydiant cyfrifiadura
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dewis o blith amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys dylunio gwefan, codio a thechnegydd TG yn ogystal â symud ymlaen i gwrs Diploma Cyntaf Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol.

Gwybodaeth allweddol

  • Pedair gradd E ar lefel TGAU neu gyrsiau perthnasol eraill ar Lefel 1
  • Chyfweliad.

Asesu:

Cyfuniad o arholiadau allanol a gwaith cwrs.

Meini prawf graddio:

Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus symud ymlaen i’r cwrs Diploma Cyntaf Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol.

Explore in VR

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.