Mynediad i Beirianneg
Trosolwg
Cyfle cyflym i unrhyw un 19 oed neu'n hŷn i ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn rhoi modd iddynt ddilyn cyrsiau lefel prifysgol fel HNC, HND neu Radd mewn Peirianneg.
Bydd y rhaglen Lefel 3 un flwyddyn hon yn rhoi sgiliau sylfaenol i chi mewn mathemateg, gwyddoniaeth a phynciau cysylltiedig â pheirianneg er mwyn i chi symud ymlaen i nifer o sectorau peirianneg, e.e. peirianneg awyrennol, sifil, cemegol, biofeddygol, chwaraeon moduro neu niwclear.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU neu’r cyfwerth mewn pynciau mathemateg, Saesneg a gwyddoniaeth. Bydd sgiliau diwydiant yn cael eu hystyried.
Addysgir y cwrs am 12 awr dros 2.5 ddiwrnod yr wythnos. Bydd gwersi rhwng 9.30am a 3.30pm ac yn ystod y tymor yn unig.
Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau academaidd (e.e. peirianneg, mathemateg a gwyddoniaeth ddamcaniaethol) a chyfrifiadurol (e.e. CAD),
a addysgir wyneb yn wyneb gan ddarlithydd arbenigol yn y pwnc.
Byddwch yn cael mynediad i amrywiaeth o adnoddau electronig a byddwch yn cael tiwtor i helpu i gefnogi’ch dysgu a’ch dilyniant.
Cewch eich asesu’n barhaus ym mhob modiwl gyda chymysgedd o brofion, aseiniadau a gwaith prosiect yn y dosbarth.
- HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig
- HND Peirianneg Drydanol ac Electronig
- HNC Peirianneg Fecanyddol
- HND Peirianneg Fecanyddol
- Gradd BEng (mewn prifysgolion lleol)
- Prentisiaethau Gradd mewn cwmnïau rhanbarthol, megis y Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Integredig
Bydd holl ddeunyddiau’r cwrs a Microsoft Office 365 ar gael am ddim.
Bydd angen arnoch gyfrifiannell wyddonol, cof bach, nwyddau ysgrifennu a gliniadur neu ddyfais ar gyfer gweithio o bell a chyfathrebu â’ch darlithwyr.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i Gefnogi Dysgu
Os ydych chi’n 19 oed neu hŷn ac yn astudio cwrs Mynediad yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech dderbyn cymorth ariannol trwy Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (AB) ar gyfradd cyrsiau ‘rhan-amser’ (Mae cyrsiau Mynediad yn dod o dan gategori cyllid 275-499 awr).
Canllawiau cymhwystra
Oedran: Rhaid bod yn 19 oed neu hŷn.
Incwm: Prawf modd – seiliedig ar incwm y cartref. Gallai dysgwyr sydd ag incwm o £18,370 neu lai dderbyn hyd at £959 y flwyddyn.
Cyfnod preswyl: Ar gael i ddysgwyr cymwys yng Nghymru neu unrhyw le arall yn y DU.
Defnydd o gyllid: Mae’n helpu gyda chostau fel llyfrau, offer a theithio.
Sut i wneud cais: Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu siaradwch ag un o Ymgynghorwyr Cyllid Myfyrwyr y Coleg.