Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 2 - Diploma
Amser-llawn
Lefel 2
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn:
01792 284049 (Broadway)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu holl sgiliau hanfodol gwallt a cholur ar gyfer y diwydiant ffasiwn, teledu a ffilm.
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys:
- Coluro
- Colur ffotograffig
- Y grefft o drin gwallt
- Creu delwedd
- Celf y corff
- Peintio wynebau â thema
- Y grefft o liwio gwallt.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf dair gradd A*-D ar lefel TGAU
- Diddordeb brwd yn y diwydiant.
Mae’r asesiadau’n barhaus drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys arsylwadau ymarferol, profion ysgrifenedig, nawsfyrddau a dyddiaduron.
Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Diploma Lefel 3 mewn Effeithiau Arbennig Theatrig, Gwallt a Cholur y Cyfryngau.
Bydd gofyn i bob myfyriwr brynu cit, gwisg ac offer ysgrifennu. Byddwn yn trafod costau yn y cyfweliad.