Skip to main content

Prentisiaeth Sylfaen Ffasiwn a Thecstilau (Lefel 2) Available in Welsh

Prentisiaeth
Lefel 2
Llwyn y Bryn
Cyfrwng Cymraeg neu Saesneg
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn cwblhau’r ddau gymhwyster canlynol a ddatblygwyd gyda Creative Skillset a’r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer dillad, esgidiau, tecstilau a busnesau cysylltiedig.

  • Tystysgrif mewn Cynhyrchu Dillad, Esgidiau, Lledr neu Decstilau
  • Tystysgrif mewn Gweithgynhyrchu Cynhyrchion wedi’u Gwnïo.

Ychwanegwyd Tachwedd 2019

Gwybodaeth allweddol

Bydd cyfweliad ffurfiol. Byddai gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol.

Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn is-sectorau dillad a thecstilau.

Prentisiaeth ar lefel uwch gyda chyflogwr.

Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu:

  • Dydd Llun-Dydd Iau: 9am-4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am-4pm.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.