Bydd gwaith ein myfyrwyr rhyfeddol o dalentog o feysydd celf a dylunio, ffotograffiaeth a cherddoriaeth – a chreadigaethau gwych disgyblion ysgolion uwchradd lleol – yn syfrdanu’r torfeydd y mis hwn trwy gyfres o arddangosfeydd a pherfformiadau ar draws Abertawe.
“Rydyn ni mor falch o’n holl ddysgwyr Safon Uwch a galwedigaethol sydd wedi gweithio mor galed eleni ac sydd wedi cynhyrchu gwaith gwirioneddol anhygoel, ac mae rhai darnau wedi ennill gwobrau,” meddai Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu, Elinor Franklin.
“Thema arddangosfa’r ysgolion, a gwaith Diploma Sylfaen a Lefel 3 yw ‘Ein Lleisiau’ sy’n briodol gan fod y sioeau hyn wir yn dathlu creadigrwydd pobl ifanc Abertawe, lle gallan nhw fynegi eu barn am amrywiaeth o faterion gan ddefnyddio mynegiant creadigol fel cyfrwng.”
Dyma’r dyddiadau a’r lleoliadau:
10-14 Mehefin
Arena Abertawe
Celf a Ffotograffiaeth Lefel 3 / Safon Uwch Celf, Graffeg, Ffotograffiaeth a Thecstilau
10-21 Mehefin
Llwyn y Bryn
Celf Diploma Sylfaen / Celf/Ffotograffiaeth Lefel 1 a 2
17-21 Mehefin
Arena Abertawe
Arddangosfa Rhwydwaith Celf Ysgolion sy’n cynnwys gwaith disgyblion: Pentrehafod; Cefn Hengoed; Llandeilo Ferwallt; Esgob Gore; Tre-gŵyr; Dylan Thomas; Cwmtawe; Treforys; Bryn Tawe; Ffynone House; Ysgol Bae Baglan; a Maes Derw.
24-28 Mehefin
Llwyn y Bryn
Arddangosfa dysgwyr rhan-amser a dysgwyr sy’n oedolion
3 Gorffennaf
The Bunkhouse
Cerddoriaeth a Pherfformio Cerdd Lefel 3