Egwyddorion Rheoli ac Arwain (CMI) Lefel 3 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cwrs Egwyddorion Rheoli ac Arwain (CMI) Lefel 3 yn addas ar gyfer rheolwyr neu ddarpar reolwyr sy’n goruchwylio neu yn rheoli tîm, yn ogystal â swyddogion prosiect a rheolwyr shifftiau sy’n gweithredu’n unol â chanlyniadau wedi’u diffinio’n glir.
Bydd rheolwyr yn gosod ac yn monitro nodau ac amcanion gan ddarparu cyfarwyddyd, cyfeiriad ac arweiniad. Bydd gweithgarwch prosiect a chyfrifoldebau gweithredol yn rhan allweddol o'u rôl yn ddyddiol.
Mae'r cymhwyster ar gael fel Dyfarniad cryno, Tystysgrif ehangach neu Ddiploma cynhwysfawr.
Gwybodaeth allweddol
Bydd gan bob dysgwr diwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio gyda dysgwyr a chyflogwyr i sicrhau bod cynnwys yr uned yn gweddu i'w rolau unigol a blaenoriaethau'r sefydliad. Gellir cyflwyno’r cwrs o bell, neu gall y tiwtor/aseswr ymweld â’r dysgwr bob pedair i chwe wythnos mewn lleoliad cyfleus.
Unedau
- Egwyddorion rheoli ac arwain
- Rheoli tîm i gyflawni canlyniadau
- Rheoli unigolion i fod yn effeithiol yn eu rôl
- Egwyddorion cyfathrebu yn y gweithle
- Meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu effeithiol
- Egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion gwaith cynhwysol
- Datblygu gwybodaeth, sgiliau a galluoedd unigolion a thimau
- Rheoli gwirfoddolwyr
- Ymateb i wrthdaro yn y gweithle
- Cefnogi timau ac unigolion trwy newid
- Cyfrannu at ddarpariaeth prosiect
- Rheoli gweithgareddau dyddiol i gyflawni canlyniadau
- Datblygu a rhannu arferion da
- Rheoli cyllidebau ac adnoddau
- Egwyddorion iechyd a diogelwch mewn lleoliad gwaith
- Monitro ansawdd i wella canlyniadau
- Hwyluso darpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid
- Rheoli data a gwybodaeth
- Rheoli cyfarfodydd
- Cyflwyno er llwyddiant
- Rheoli eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae CMI yn argymell y cymwysterau canlynol:
- Rheoli Llinell Gyntaf (CMI) Lefel 4 - Cymwysterau
Cymorth astudio
Bydd gan ddysgwyr fynediad i Management Direct, llyfrgell ar-lein gynhwysfawr am ddim sy'n cynnwys y deunydd diweddaraf sy'n mynd i'r afael ag arferion rheoli cyfredol. Bydd yr adnoddau hyn yn hwyluso’r broses astudio i’r rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau.