Skip to main content

Gweinyddu Busnes Lefel 2 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
C&G
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y diploma Gweinyddu Busnes yw uwchsgilio staff sy’n gweithio mewn rolau gweinyddu busnes. Mae’r cymhwyster yn cynnig amrywiaeth o unedau dewisol y gall y dysgwr eu hastudio i gyd-fynd â gofynion y sefydliad a’u rôl swydd.

Ar Lefel 2, bwriedir y cymhwyster ar gyfer dysgwyr sy’n newydd i’r rôl neu sydd wedi’u hadleoli, gyda rolau addas yn cynnwys gweinyddwyr cymorth busnes, gweithwyr swyddfa iau, goruchwylwyr swyddfa, cynorthwywyr personol, ysgrifenyddion, neu dderbynwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. 

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid, rhaid bod y dysgwr yn byw yng Nghymru. 

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewiswyd yn addas i’w rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect yn seiliedig ar yr unedau y maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddynt gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos eu bod wedi cymhwyso eu sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwyr fynd i seminarau neu weithdai, a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau ac arbenigedd yn y maes hwn. 

Unedau gorfodol

  • Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes
  • Deall sefydliadau cyflogwyr
  • Rheoli perfformiad a datblygiad personol
  • Meithrin cysylltiadau gwaith â chydweithwyr
  • Egwyddorion cynhyrchu dogfen busnes a rheoli gwybodaeth
  • Egwyddorion darparu gwasanaethau gweinyddol

Unedau dewisol

Gellir dewis ac addysgu’r unedau dewisol canlynol:

  • Cynhyrchu dogfennau busnes
  • Cynhyrchu cofnodion cyfarfodydd 
  • Gweinyddu cofnodion adnoddau dynol
  • Defnyddio e-bost
  • Datblygu cyflwyniad
  • Rhoi cyflwyniad
  • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd
  • Cyfrannu at y gwaith o drefnu digwyddiad
  • A llawer mwy!

Gweinyddu Busnes Lefel 3 - Cymhwyster

Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gwneud aseiniadau ysgrifenedig sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr arfau a’r technegau cysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn rhoi’r rhain ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol i greu portffolio o dystiolaeth.

Bydd y prosiect, y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp ac un-i-un rheolaidd gyda’r tiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd y dysgwr yn effeithiol.