Arwain Tîm (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth) Lefel 2 – Tystysgrif
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer arweinwyr tîm newydd a darpar arweinwyr tîm, a bydd yn darparu cyflwyniad da i’r rôl a’i gyfrifoldebau. Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod yn genedlaethol a bydd yn fan cychwyn gwych ar gyfer eich gyrfa reoli.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid i ddysgwyr fod yn arweinwyr tîm newydd neu ddarpar arweinwyr tîm.
Bydd gan bob dysgwr diwtor/asesydd dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda dysgwyr a chyflogwyr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas i’w rolau unigol, eu blaenoriaethau sefydliadol ac yn bodloni gofynion y cymhwyster. Gellir darparu’r cymhwyster o bell neu gall y tiwtor/asesydd ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r asesydd.
Unedau
Mae’r cymhwyster yn cynnwys tair uned orfodol, lle byddwch yn dysgu sut i:
- Gynllunio, dyrannu a monitro gwaith
- Defnyddio offer a thechnegau i ddatblygu eich hun fel arweinydd
- Cael y gorau o'ch tîm
Yna, bydd dysgwyr yn gweithio gyda'ch cyflogwr a'r Coleg i ddewis yr unedau dewisol mwyaf addas.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, mae’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn argymell y cymhwyster canlynol:
- Rheoli Lefel 3 - Cymwysterau
Ar y cyd â’r Sefydliad Arweinyddiaeth, bydd dysgwyr yn cael mynediad i aelodaeth astudio’r Sefydliad. Mae'r aelodaeth hon yn darparu mynediad i ystod o adnoddau a fydd yn datblygu sgiliau arwain, gan hybu hyder a gwella'r profiad dysgu.