Mae un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, wedi penodi Kelly Fountain fel ei Bennaeth nesaf.
Bydd Kelly, cyn Ddirprwy Bennaeth Gwasanaethau Academaidd yng Ngrŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot, yn dechrau’r swydd yn Ionawr 2024.
Bydd Kelly yn dod â mwy nag 20 mlynedd o brofiad i’r rôl, gyda hanes o arweinyddiaeth a rheolaeth strategol gryf, ac ehangder a dyfnder o brofiad uwch mewn sefydliadau cymhleth ac amlhaenog.
Fel Pennaeth, bydd Kelly â chyfrifoldeb cyffredinol am weithrediadau dyddiol ar draws chwe champws y Coleg. Bydd ei ffocws yn cynnwys gweithredu a monitro cynllun strategol y Coleg, cynnal safonau academaidd uchel, gwella ansawdd profiad y myfyriwr, a hyrwyddo diwylliant o les i staff a myfyrwyr.
Mae Kelly yn cymryd yr awenau gan y Pennaeth presennol, Mark Jones, a fydd yn parhau fel Prif Swyddog Gweithredol y Coleg â chyfrifoldeb am strategaethau cyffredinol, yn ogystal â datblygu partneriaethau allweddol a busnes newydd.
Mae Kelly wedi cyflawni llawer yn ystod ei gyrfa yn y sector addysg bellach yng Nghymru a Lloegr. Yn nodedig ymhlith y rhain y mae ei chyfraniadau at wella ansawdd y dysgu a’r addysgu a gwella’r profiad addysgol i ddysgwyr, arwain cynlluniau uno strategol, datblygu a gweithredu strategaethau coleg cyfan, a chynrychioli’r sector AB mewn digwyddiadau mawreddog fel Cynhadledd Genedlaethol Addysg Oedolion.
Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Kelly: “Dwi wrth fy modd ac yn gyffrous i fod yn ymuno â’r tîm yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
“Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ymatebol i’n cymunedau lleol, cyflogwyr a rhanddeiliaid - gan ddatblygu’r cwricwlwm presennol a darparu profiadau eithriadol i’r dysgwyr.
“Fel un o gyn-fyfyrwyr y Coleg, dwi wrth fy modd fy mod i’n gallu dychwelyd lle dechreuais i fy nhaith addysgol fy hun, a dwi’n angerddol am sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael yr un profiad ardderchog ag a gefais i pan oeddwn i’n fyfyriwr.”
Dywedodd Meirion Howells, Cadeirydd y Llywodraethwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae’n bleser mawr gennym groesawu Kelly i’r Coleg. Bydd ei hangerdd am ddysgu ac addysgu a’i hymroddiad at ddarparu profiad addysg o ansawdd uchel i bob myfyriwr yn fudd mawr i’n sefydliad.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda hi wrth iddi ddatblygu’r Coleg i gyflawni ei genhadaeth sef ysbrydoli a chynorthwyo dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.”
Bydd Kelly yn ymgymryd â’i rôl newydd yn Ionawr 2024.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o’r colegau AB mwyaf yng Nghymru gyda thros 4,500 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser – gan gynnwys 3,000 o brentisiaid – o bob rhan o Abertawe a’r siroedd cyfagos yn astudio bob blwyddyn. Mae’r Coleg yn gweithredu o saith lleoliad ac mae’n un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal gyda thros 1,000 o aelodau staff a throsiant blynyddol o £60m.