Skip to main content
Art poster

Galwad i Greadigolion Blwyddyn 8: Dewch i arddangos eich sgiliau yn Arena Abertawe!

Mae’r cyffro yn cynyddu wrth i Goleg Gŵyr Abertawe baratoi ar gyfer prosiect cyffrous ar y cyd â’r Rhwydwaith Celfyddydau Ysgolion.

Nod prosiect ‘Ein Lleisiau’ yw grymuso talentau ifanc yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Artist Preswyl enwog y Coleg, Ffion Denman, a staff addysgu ymroddgar wedi cynhyrchu pecyn offer creadigol gan gynnwys cyfres gyfareddol o fideos i ysbrydoli ac arwain disgyblion Blwyddyn 8 i fynegi eu safbwyntiau unigryw trwy gelf.

A’r rhan fwyaf cyffrous? Bydd yr holl waith celf a gyflwynir i’w gweld mewn arddangosfa drawiadol yn Arena Abertawe ym mis Mehefin!

“Rydyn ni’n falch dros ben o ddarparu platfform i bobl ifanc fynegi’r hyn sy’n bwysig iddynt trwy eu gwaith celf,” meddai Elinor Franklin, Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Mae arddangosfa’r Arena yn addo bod yn ddathliad o greadigrwydd a chydweithredu, gan gynrychioli lleisiau amrywiol pobl ifanc ein hardal.”

O Landeilo Ferwallt i Fryn Tawe a Phontardulais i Bentrehafod, mae 23 o ysgolion wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan. Fodd bynnag, nid yw’r arddangosfa wedi’i chyfyngu i’r ysgolion hynny yn unig. Mae disgyblion Blwyddyn 8 sy’n derbyn addysg gartref neu o ysgolion nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect hefyd yn gallu cyflwyno gwaith celf.

Os hoffech wybod rhagor neu gymryd rhan, gallwch gysylltu â Ffion Denman yn ffion.denman@gcs.ac.uk neu Elinor Franklin yn elinor.franklin@gcs.ac.uk.

Bydd arddangosfa’r Arena yn dapestri bywiog o fynegiant celfyddydol, sy’n tynnu sylw at dalentau a meddyliau’r bobl ifanc ledled yr ardal.

Mae’r adborth gan athrawon wedi bod yn anhygoel!

“Hoffwn roi gwybod i chi pa mor wych yw’r gystadleuaeth uchod. Mae’r adnoddau addysgu ar gyfer hyn yn benigamp ac rydych chi wedi ei gwneud hi’n haws i ni ei chyflwyno. Mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n thema sef ‘taith o gwmpas y byd’. Dylai pob cystadleuaeth wneud hyn!” - Claire Moore, Athrawes Gelf, Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Dywedwch wrth Ffion pa mor wych yw ei ppt....dechreues i gyda fy nisgyblion blwyddyn 8 heddiw. Cyffrous dros ben!" - Charlotte Lewis, Arweinydd Maes Cwricwlwm Celf, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt


"Diolch am yr adnoddau rhagorol rydych chi wedi’u darparu ar gyfer prosiect blwyddyn 8. Mae’r sleidiau yn hygyrch iawn i’n dysgwyr ac mae’r fideos staff yn ddiddorol iawn ac yn isel eu technoleg." - Alison David, Athrawes Gelf, Ysgol Gyfun Esgob Gore