Rheolwr Gweithrediadau/Adrannol (Lloegr) Lefel 5 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth hon yn addas i’r rhai sy’n rheoli timau neu brosiectau, sydd â chyfrifoldeb am gyflawni nodau ac amcanion gweithredol neu adrannol fel rhan o’u strategaeth sefydliadol.
Bydd dysgwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wella perfformiad yr unigolyn, y tîm a’r sefydliad, i gynorthwyo a datblygu unigolion i reoli newid strategol, yn ogystal â datblygu sgiliau mewn prosesau busnes a allai wella effeithiolrwydd sefydliadol.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn debygol o gynnwys:
- Creu a chyflawni cynlluniau gweithredol
- Rheoli prosiectau
- Arwain a rheoli timau
- Rheoli newid
- Rheoli cyllid ac adnoddau
- Rheoli talent
- Hyfforddi a mentora
Mae galwedigaethau cyffredin yn cynnwys:
- Rheolwr gweithrediadau
- Rheolwr rhanbarthol
- Rheolwr is-adrannol
- Rheolwr adrannol
- Rheolwr arbenigol
Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yn Lloegr yn unig. Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth debyg yng Nghymru, cliciwch yma.
Gwybodaeth allweddol
Mae sgiliau swyddogaethol Mathemateg a Saesneg ar Lefel 2 yn ofynnol, ond gallwch eu cwblhau fel rhan o’r brentisiaeth.
Addysgir y brentisiaeth trwy gyfres o weithdai sy’n cwmpasu pob un o’r 10 uned orfodol. Addysgir y sesiynau ar-lein fel hanner diwrnod bob yn ail wythnos, dros 20 sesiwn. Os bydd angen addysgu wyneb yn wyneb, bydd un sesiwn y mis am 10 mis (mae presenoldeb yn orfodol).
Yn dilyn y sesiynau, byddwch yn treulio amser yn gweithio ar gasglu tystiolaeth, cwestiynau gwybodaeth, a pharatoi ar gyfer asesiad ar y diwedd.
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb neu o bell.
Unedau gorfodol
Mae pob uned ar y brentisiaeth yn orfodol.
- Arwain pobl
- Rheoli pobl
- Meithrin cysylltiadau
- Cyfathrebu
- Rheolaeth weithredol
- Rheoli prosiect
- Cyllid
- Hunanymwybyddiaeth
- Rheoli’ch hunan
- Gwneud penderfyniadau
Unedau dewisol
Nid oes unedau dewisol ar gyfer y brentisiaeth hon.
Mae opsiwn i gwblhau Diploma Lefel 3/5 ochr yn ochr â’r brentisiaeth. Nid oes angen hyfforddiant ychwanegol ond bydd gwaith ychwanegol i’w gwblhau drwy gydol y cwrs.
Bydd cost ychwanegol gan nad yw’n cael ei chynnwys yn nhâl yr Ardoll.
Asesir y brentisiaeth trwy asesiad pwynt terfyn yn ogystal ag asesiad pwynt terfyn allanol, a fydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad a sesiwn holi ac ateb
- Trafodaeth broffesiynol seiliedig ar bortffolio o dystiolaeth
- Cynnig prosiect