Arweinydd Tîm/Goruchwyliwr (Lloegr) Lefel 3 – Prentisiaeth
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth hon yn addas i’r rhai sy’n gweithio mewn rôl rheolwr llinell gyntaf, â chyfrifoldebau gweithredol/prosiect neu sydd â chyfrifoldeb am reoli tîm i gyflawni canlyniad wedi’i ddiffinio’n glir.
Bydd dysgwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wella perfformiad unigol a thîm, cynorthwyo a datblygu unigolion a thimau i gyflawni amcanion, yn ogystal â datblygu’r gallu i reoli’ch hun ac eraill.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn debygol o gynnwys:
- Cynorthwyo, rheoli a datblygu aelodau tîm
- Rheoli prosiectau
- Cynllunio a monitro llwythi gwaith ac adnoddau
- Cyflawni cynlluniau gweithredol
- Datrys problemau
- Meithrin cysylltiadau yn fewnol ac yn allanol
Mae galwedigaethau cyffredin yn cynnwys:
- Goruchwyliwr
- Arweinydd tîm
- Swyddog prosiect
- Goruchwyliwr sifft
- Fforman
- Rheolwr sifft
Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yn Lloegr yn unig. Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth debyg yng Nghymru, cliciwch yma.
Gwybodaeth allweddol
Mae sgiliau swyddogaethol Mathemateg a Saesneg ar Lefel 2 yn ofynnol, ond gallwch eu cwblhau fel rhan o’r brentisiaeth.
Addysgir y brentisiaeth trwy gyfres o weithdai sy’n cwmpasu pob un o’r 10 uned orfodol. Addysgir y sesiynau ar-lein fel hanner diwrnod bob yn ail wythnos, dros 20 sesiwn. Os bydd angen addysgu wyneb yn wyneb, bydd un sesiwn y mis am 10 mis (mae presenoldeb yn orfodol).
Yn dilyn y sesiynau, byddwch yn treulio amser yn gweithio ar gasglu tystiolaeth, cwestiynau gwybodaeth, a pharatoi ar gyfer asesiad ar y diwedd.
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb neu o bell.
Unedau gorfodol
Mae pob uned ar y brentisiaeth yn orfodol.
- Arwain pobl
- Rheoli pobl
- Meithrin cysylltiadau
- Cyfathrebu
- Rheolaeth weithredol
- Rheoli prosiect
- Cyllid
- Hunanymwybyddiaeth
- Rheoli’ch hunan
- Gwneud penderfyniadau
Unedau dewisol
Nid oes unedau dewisol ar gyfer y brentisiaeth hon.
Mae opsiwn i gwblhau Diploma Lefel 3/5 ochr yn ochr â’r brentisiaeth. Nid oes angen hyfforddiant ychwanegol ond bydd gwaith ychwanegol i’w gwblhau drwy gydol y cwrs.
Bydd cost ychwanegol gan nad yw’n cael ei chynnwys yn nhâl yr Ardoll.
Asesir y brentisiaeth trwy asesiad pwynt terfyn yn ogystal ag asesiad pwynt terfyn allanol, a fydd yn cynnwys:
- Cyflwyniad a sesiwn holi ac ateb
- Trafodaeth broffesiynol seiliedig ar bortffolio o dystiolaeth