Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo (Highfield) Lefel 3 - Dyfarniad
Trosolwg
Bwriad y cymhwyster hwn yw astudio anghenion diogelwch bwyd a hylendid y sector arlwyo, gan fod yna angen cynyddol i wneud diogelwch bwyd yn berthnasol i amgylcheddau busnes penodol er mwyn cynyddu effeithiolrwydd cyffredinol.
Bwriad cymhwyster Lefel 3 yw cefnogi rôl yn y gweithle, a rhoi cyfle i ddysgwyr dyfu ac ymgysylltu â’u dysgu. Mae hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n anelu at symud ymlaen i rolau lefel uwch neu oruchwyliol mewn busnes arlwyo bwyd.
Gwybodaeth allweddol
Addysgir cymhwyster Lefel 3 dros ddau ddiwrnod mewn lleoliad a fydd yn cael ei gadarnhau pan fyddwch yn cadw eich lle. Mae lleoliadau posibl yn cynnwys Llys Jiwbilî neu Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Mae’r pynciau’n cynnwys sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelwch bwyd, cymhwyso a monitro arferion hylendid da, sut i roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith a chymhwyso a monitro arferion da o ran halogiad, microbioleg a rheoli tymheredd.
Os oes anghenion dysgu ychwanegol gan ddysgwr, bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd arnom i weithredu’r prosesau gofynnol.
Os ydych wedi cadw lle o fewn y cyfnod chwe wythnos hwn ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch, dylech ystyried newid y dyddiad neu roi gwybod i ni pan fyddwch yn cadw eich lle.