Cafodd staff a myfyrwyr talentog o Goleg Gŵyr Abertawe eu dewis yn ddiweddar i arddangos eu gwaith celf yn Oriel Mission, fel rhan o brosiect arloesol sydd wedi uno artistiaid a phobl greadigol yn yr ardal leol.
Roedd prosiect MiniPrint Wales, a wnaed yn bosibl gan Weithdy Argraffu Abertawe a chyllid gan Gyngor y Celfyddydau, wedi dod â gwneuthurwyr printiau proffesiynol at ei gilydd i rannu eu harbenigedd â Choleg Gŵyr Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr. Roedd y gweithdai yn cynnwys printio leino gyda Judith Stroud, ysgythru diogel gyda Flora MacLochlan ac argraffwaith gyda Mark Pavey.
Ffrwyth y prosiect hwn oedd arddangosfa gwaith celf yn Oriel Mission, rhwng 30 Medi a 28 Hydref. Mae Gweithdy Argraffu Abertawe hefyd wedi cynnwys yr holl gyflwyniadau llwyddiannus yn eu catalog arddangos MiniPrint Wales.
Nawr, mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod Academi Gelf Frenhinol Cambrian wedi mynegi diddordeb mewn cynnal yr arddangosfa yn eu horiel hwy yng Nghonwy rhwng 2 a 30 Mawrth, 2024. Dyma gyfle gwych i fynd â’r arddangosfa i leoliad nodedig arall, gan gyd-fynd â nod y prosiect sef cysylltu â gwneuthurwyr printiau, gweithdai ac orielau ledled Cymru.
Llongyfarchiadau i’r unigolion canlynol o’r Coleg, y cafodd eu gwaith eithriadol ei ddewis ar gyfer yr arddangosfa hon:
- Susanne David
- Natalie Hemmingway
- Marilyn Jones
- Andrew Gardner
- Rachel Barrett
- Nikola Dziewic
- Grace Carro
- Kaitlin Curtis
- Wanesa Kaźmierowska
- Mia Haf Davies Dole
- Nia Addicott
- Thea Wakeford
- Kate Wardley
- Laura Gwen Miles
- Aimee Evans
Gallwch dysgu mwy am ein cyrsiau Celf a Dylunio yma.