Mae gwobr Aur Coleg Gŵyr Abertawe mewn Safonau Iechyd Corfforaethol wedi cael ei hailachredu am bedwaredd flwyddyn.
Yn dilyn Gwiriad Statws Manwl yn ddiweddar gan Cymru Iach ar Waith, cafodd y Coleg ei ganmol am wella a chynyddu ei ddarpariaeth lles arobryn i staff.
Ymhlith y mentrau niferus y canmolwyd y Coleg amdanynt roedd:
Dau benodiad newydd sef hyfforddwr ffitrwydd a chynghorydd lles sydd ill dau wedi cychwyn llawer o weithgareddau newydd ar gyfer staff, gan gynnwys system atgyfeirio ymarfer corff sy’n cynorthwyo unigolion â phroblemau iechyd hirdymor.
Lansio nifer o fentrau sy’n ystyriol o’r menopos h.y., hyfforddiant rheoli arbenigol, sefydlu Caffis Menopos gyda chynghorwyr hyfforddedig, ac ymgynghoriadau gyda Newson Health, sy’n darparu triniaethau menopos arbenigol a phreifat.
Diwrnod Lles staff sy’n cynnwys ystod eang o wybodaeth, gweithgareddau, twrnameintiau ac ati.
Annog staff i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon fel twrnameintiau dodgeball, y Duathlon a Phencampwriaeth Ironman Cymru 2023.
Prynu trwydded i bob gweithiwr gael mynediad am ddim i ap Headspace.
Lansio porth Lles newydd ar fewnrwyd y staff.
Darparu gweithgareddau celf a chrefft ar gyfer yr aelodau hynny o staff nad ydynt efallai’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Yn y crynodeb gan yr aseswr a oedd yn ymweld, dywedodd fod ‘tystiolaeth glir o les yn cael ei integreiddio a’i ymgorffori’n llwyr yn arferion gwaith y Coleg.’
“Rydyn ni wrth ein bodd bod ein statws gwobr Aur wedi cael ei ailachredu,” meddai’r Cyfarwyddwr AD, Sarah King.
“Mae edrych ar ôl ein lles corfforol a meddyliol yn ganolog i ethos y Coleg, yn enwedig ar ôl y blynyddoedd diwethaf sydd wedi bod mor anodd oherwydd y pandemig byd-eang, ac rydyn ni wedi bod yn falch iawn o weld cynifer o aelodau staff yn manteisio ar yr amrywiaeth eang o weithgareddau rhad ac am ddim sy’n cael eu cynnig. Mae eu hadborth wedi bod yn hynod gadarnhaol hefyd, gyda llawer o staff yn nodi bod y cynnig lles a ddarparwyd gan y Coleg wedi bod o fudd aruthrol iddyn nhw.”
Y Safon Iechyd Corfforaethol, sy’n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Iach ar Waith, yw’r nod ansawdd ar gyfer hybu iechyd yn y gweithle yng Nghymru. Mae’r safon yn cydnabod arferion da ac yn targedu problemau afiechyd allweddol y gellir eu hosgoi yn ogystal â blaenoriaethau Her Iechyd Cymru.