Mae myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, Scott Tavner, wedi cael ei roi ar y llwybr carlam i gystadlu yng ngharfan WorldSkills Lyon ar ôl ei berfformiad rhagorol yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2021.
Mae WorldSkills yn fudiad byd-eang o dros 80 o wledydd, sy’n cynorthwyo pobl ifanc ledled y byd trwy hyfforddiant, asesiadau a meincnodi seiliedig ar gystadlaethau. Mae cystadlaethau WorldSkills yn cael eu hadnabod gan lawer fel y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’, gyda chystadleuwyr yn cael eu hyfforddi i ddatblygu eu sgiliau personol a’u sgiliau cyflogadwyedd, yn ogystal â’u sgiliau technegol.
Fe wnaeth Scott, sy’n astudio Peirianneg Electronig, gystadlu yn y gystadleuaeth Electroneg Ddiwydiannol.
“Dwi mor falch o’r hyn mae Scott wedi’i gyflawni. Mae ei ymroddiad i’w sgil yn ysbrydoliaeth, ac mae ei fanylder a’i barodrwydd cyson i wella wedi bod o gymorth iddo ar ei daith o gymhwysedd i ragoriaeth,” dywedodd Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig yn y Coleg a Rheolwr Hyfforddiant WorldSkills UK ar gyfer Electroneg Ddiwydiannol.
Mae cylch Lyon o WorldSkills ar fin dechrau ac mae tua 3,500 o bobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol 2022. Bydd Scott yn ymuno â’r rhestr fer o ymgeiswyr eithriadol a fydd yn cynrychioli’r DU yn 2024 heb orfod ailymuno â’r cylch hwn.