Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan Brif Weinidog Cymru, sy’n amlinellu bod achosion yng Nghymru yn parhau i godi ac y dylai’r cyfyngiadau mewn ysgolion barhau tan y Pasg, gallwn ni gadarnhau y bydd y Coleg yn parhau â’i fesurau diogelwch cyfredol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn yr holl fannau cymunol
- Golchi a diheintio dwylo
- Gwnewch le drwy gadw pellter cymdeithasol
- Awyru da
Rydym hefyd yn cynghori staff a myfyrwyr i barhau i hunan-ynysu os ydyn nhw’n dangos symptomau covid neu’n cael prawf positif.
Rydym yn ymwybodol na fydd gorchuddion wyneb yn orfodol mwyach ar gludiant cyhoeddus o ddydd Llun (28 Mawrth), ond ni fydd y gofyniad hwn yn berthnasol ar fysiau dan gontract i’r Coleg lle bydd angen gwisgo gorchuddion wyneb o hyd. Yn wir, ein cyngor ni yw y dylai myfyrwyr barhau i wisgo gorchuddion ar bob cludiant i’r campws ac oddi yno.
Byddwn yn adolygu’r sefyllfa hon yn rheolaidd gyda’r Tîm Rheoli Digwyddiadau (IMT) rhanbarthol, a byddwn yn cyfleu unrhyw newidiadau pellach cyn gynted â phosibl.
Cofiwch barhau i’n helpu i gadw’r Coleg yn ddiogel i bawb.