Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig
Trosolwg
Mae Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig yn rhoi cyflwyniad eang i’r llwybrau proffesiynol mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Datblygwyd y cwrs er mwyn i unigolion gael blas ar sgiliau cysylltiedig â chynllunio, datblygu, rheoli a gwerthuso prosiectau amgylchedd adeiledig a sgiliau dylunio a lluniadu cysylltiedig â’r amgylchedd adeiledig. Byddwch yn creu cysyniadau ar gyfer sgiliau Modelu Gwybodaeth am Adeiladu (BIM) a syrfëo.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau pedair uned – dwy yn y flwyddyn gyntaf sef y flwyddyn UG, a dwy yn yr ail flwyddyn sef y flwyddyn Safon Uwch.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
- Gradd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg, Amgylchedd Adeiledig neu Ddylunio Technoleg yn ddymunol.
Fel rhan o’r opsiwn Safon UG/Uwch, pedair awr yr wythnos.
Asesu:
Er mwyn cwblhau’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol:
Safon UG:
- Uned 1: Ein Hamgylchedd Adeiledig – arholiad ysgrifenedig (20%)
- Uned 2: Dylunio a Chynllunio – asesiad di-arholiad (20%)
Safon Uwch:
- Uned 3: Defnyddiau, Technolegau a Thechnegau – arholiad ysgrifenedig (30%)
- Uned 4: Arferion Adeiladu - asesiad di-arholiad (30%)
HNC Rheoli Safle Adeiladu
Prentisiaeth Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3