Mae’r Pennaeth Mark Jones yn edrych ymlaen at ddechrau tymor yr hydref, gan esbonio sut mae’r Coleg yn parhau i sicrhau mai iechyd a diogelwch yw’r brif flaenoriaeth o hyd.
Wrth i ni nesáu at ddechrau’r tymor newydd, mae’n amser da i fyfyrio ar sut mae pethau wedi bod hyd yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod braidd yn heriol a dweud y lleiaf, ond gydag ymrwymiad parhaus gan staff a myfyrwyr rydym unwaith eto wedi dathlu blwyddyn wych gyda chanlyniadau Safon Uwch rhagorol, gwobrau a chydnabyddiaethau amryfal – yn fwyaf diweddar, rydym wedi cael ein henwi y Coleg Noddfa AB cyntaf yng Nghymru.
Gyda’r tymor newydd ar ein gwarthaf, rydym yn parhau i ddilyn canllawiau ôl-16 Llywodraeth Cymru o ran gweithrediad diogel y Coleg, sef yr un canllawiau yn union y bydd pob un o chweched dosbarthiadau ein hysgolion lleol yn eu dilyn.
Mae ein timau addysgu wrthi’n paratoi i ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb o fis Medi ar gyfer ein holl fyfyrwyr.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu myfyrwyr presennol a myfyrwyr newydd i’n cymuned Coleg ac rydym am eich sicrhau ein bod yn ymrwymedig i sicrhau’ch diogelwch ar y campws. Dyma rai o’r mesurau sydd gennym ar waith.
Diheintio dwylo
Byddwn yn parhau i’ch annog i olchi’ch dwylo yn rheolaidd a defnyddio’r hylif diheintio dwylo a ddarperir. Bydd pwyntiau diheintio dwylo ar gael ar draws y campysau.
Cadw pellter corfforol
Er nad oes gofyniad penodol, byddwn yn parhau i’ch annog i gadw pellter cymdeithasol o bobl eraill.
Gorchuddion wyneb
Er nad oes gofyniad penodol, rydym yn deall pe byddai’n well gennych wisgo gorchudd wyneb a byddwn yn eich annog i wneud hynny os dymunwch.
Profion
Rydym yn cynnig gwasanaeth profion llif unffordd i’r holl staff a myfyrwyr os dymunant fanteisio arno.
Glanhau
Byddwn yn parhau i weithredu rhaglen lanhau drylwyr ar draws pob un o’n campysau.
P’un ai ydych yn fyfyriwr sy’n dychwelyd, neu yn ymuno â ni ar gychwyn eich taith Coleg, byddwn yn sicr o gynnig y croeso cynhesaf i chi pan gyrhaeddwch, a’r ymrwymiad i roi addysg o’r safon orau i chi yn ogystal â phrofiad myfyriwr cefnogol.
Os nad ydych wedi penderfynu eto beth rydych chi am ei wneud eleni, gallwch siarad â’n tîm Derbyn. Mae lleoedd ar gael ar amrywiaeth o gyrsiau amser llawn gan gynnwys Safon Uwch, arlwyo, peirianneg, y celfyddydau perfformio, chwaraeon, gwasanaethau cyhoeddus a busnes, anfonwch e-bost i admissions@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284000 i wybod rhagor.